Taith Cerdded Tref Wrecsam : Stryt y Rhaglaw

Stryt y Rhaglaw

Mae Stryt yr Hôb yn cyfarfod â Stryt y Rhaglaw wrth y dafarn. Galwyd Stryt y Rhaglaw wrth yr enw hwn yn y 1850au pan fu llawer o adeiladu yn y rhan hon o Wrecsam. Adeiladwyd yr Eglwys Gadeiriol Babyddol, Eglwys Sant Marc a'r Amgueddfa yn ystod y cyfnod hwn. Ger y stryd hon, roedd yr adeilad hanesyddol Bryn-y-ffynnon. Mae'r hanesydd lleol, A.N.Palmer yn dyfynnu disgrifiad o'r 19 Ganrif am y ty:

"Ar ôl mynd trwy'r porthdy, roedd llwybr graean llydan at ddrws ffrynt Bryn-y-ffynnon ac ar y dde roedd clawdd uwch wedi'i orchuddio â glaswellt ynghyd â chlympiau o goed a llwyni a gwelyau blodau; ar y chwith roedd lawnt wastad gyda phwll pysgod ynddi: roedd y lawnt hon yn cyrraedd cyn belled â'r coed pisgwydd. I gefn y clawdd roedd gardd gegin, yn gorchuddio'r holl dir o'r porthdy at Stryt y Rhaglaw a [erbyn hyn] Stryt yr Allt, lle roedd nifer fawr o goed ffrwythau dethol."

Dymchwelwyd ty Bryn-y-ffynnon yn 1915. Safai'r t a'r gerddi ar safle Clwb Ieuenctid Vic Wrecsam a thafarn a chlwb nos Yales café nawr. Mae Stryt y Rhaglaw wedi newid llawer: Mae McDonalds ar safle Capel Seion. Disgrifiodd Pevsner ddymchweliad y capel fel "colled drist."

Parhewch ar hyd Stryt y Rhaglaw hyd nes cyrraedd yr Amgueddfa.

Ymlaen i Adeiladau'r Sir >>

dychwelyd i'r mynegai

yn ôl i'r brig