|
Y parc gwledig mwyaf yn ardal Wrecsam, lleolir Dyfroedd Alun yn Nyffryn Alun hardd. Bydd teithiau cerdded coetir, glaswelltir a glan yr afon yn eich helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas yn ddidrafferth. Mae Canolfan Ymwelwyr sydd â chaffi, siop, ystafell cynhadledd neu bwyllgor ynghyd ag arddangosfa am hanes a bywyd gwyllt y Parc. Mae’r gwasanaeth yn cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer plant ac oedolion drwy gydol y flwyddyn.
Seiclo Oddi ar y Ffordd a Cherdded ar Lan yr Afon
Mae lôn feiciau a thrywydd cerfluniau yn ymestyn ar draws y parc am ddwy filltir o’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae'n cynnig beicio diogel i deuluoedd, gyda llethr esmwyth a cherfluniau cyffrous i'w gweld. Mae hefyd yn darparu mynediad gwych ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae’n arwain at faes chwarae antur gwych a maes parcio a dechreubwynt arall yn Llay.
Teithiau Cerdded Iachus a’r Llwybr Heini
Mae gan y parc 5 llwybr gydag arwyddion sy’n amrywio o ran pellter a graddfa ac sy’n hawdd i’w defnyddio. Mae taflen ar gael o’r ganolfan ymwelwyr i’ch helpu chi i ddewis llwybr addas. Os oes digon o egni gennych ar ôl, mae gan y parc lwybr heini a luniwyd yn arbennig ac sy’n cynnwys amrywiaeth o wahanol offer ymarfer corff. Mae’r offer wedi ei lunio i wella cryfder, stamina, cydbwysedd a chydsymud. Mae’r offer cydsymud a chydbwyso yn arbennig o addas ar gyfer yr ifanc, tra bo’r barrau cyflin a’r meinciau ymarfer corff yn tylunio cyrff oedolion.
Y Prosiect Pwer Pedlo
Yn y parc lleolir prosiect Pedal Power i’r ymennydd a’r galon. Ei fwriad yw gwneud beicio yn hygyrch i blant ac oedolion sydd ag amrywiaeth o anableddau. Mae beicio yn ymarfer corff trawiad isel sy’n ffordd ddelfrydol o wella a chynnal eich cryfder a’ch lefelau ffitrwydd. Mae Pedal Power yn defnyddio beiciau tair olwyn a adeiladwyd yn arbennig o amgylch cylchdaith sy’n filltir o hyd ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun. I neilltuo taith cysylltwch â’ch cydlynydd Pwer Pedlo yn Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint ar 01978 757524.
Sut i Gyrraedd Yno
Lleolir Dyfroedd Alun 3 milltir i ogledd Wrecsam rhwng Gwersyllt, Bradle a Llai. I gyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr, ewch ar hyd yr A541, sef y ffordd o Wrecsam i’r Wyddgrug, a chadwch lygad ar agor am yr arwyddion brown a gwyn ger pentref Gwersyllt. I gyrraedd ochr Llai, ewch ar hyd y B5425 o Wrecsam i Llai a chadwch lygad ar agor am yr arwyddion brown a gwyn cyn i chi gyrraedd pentref Llai.
Ar Agor
Mae’r parc ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r Ganolfan Ymwelwyr ar agor:
10.30am - 4.30pm bob dydd
Cyfleusterau
- Maes Parcio
- Siop
- Caffi
- Ystafell gynhadledd / bwyllgor
- Partion ysgol trwy drefniant
- Toiledau (toiledau i’r anabl hefyd).
Cysylltwch â ni
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Ffordd yr Wyddgrug
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4AG
Ffôn: 01978 763140
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk
|