Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Y Parciau Gwledig

 

Rheolir y saith parc gwledig sydd yn y fwrdeistref, ynghyd â Llwybr Clywedog a rhan o Glawdd Offa gan Wasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Wrecsam.  Nod y gwasanaeth yw cydbwyso anghenion bywyd gwyllt a hamdden yn y parciau, ac mae hefyd yn cydweithio â chymunedau ar fentrau lleol.

Mae'r saith parc gwledig yn y fwrdeistref sirol yn cynnig mynediad rhwydd i'r cefn gwlad.  Gall ymwelwyr fwynhau cerdded y coetiroedd hardd, crwydro ar hyd afonydd Clywedog, Alun a Dyfrdwy neu ymweld â Thraphont Cefn neu Draphont Ddwr ysblennydd Pontcysyllte. Mae gan Barc Gwledig Dyfroedd Alun sydd rhwng Gwersyllt a Llay, gyfres o deithiau cerdded rhwydd a llwybrau beicio i feicio'n ddiogel. Mae gan Dy Mawr yng Nghefn Mawr olygfeydd anhygoel o ddyffryn Llangollen a'r draphont. Mae Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant yn swatio mewn coetir ar hyd afon hyfryd Clywedog. Mae Bonc yr Hafod, sef Parc Cymunedol Hafod, yn cynnig golygfeydd ysblennydd o'r cefn gwlad cyfagos.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig gwasanaeth addysg amgylcheddol cynhwysfawr i ysgolion.  Mae'r holl weithgareddau'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, a gellir addasu prosiectau neu weithgareddau unigol i fodloni anghenion penodol yr athro/athrawes.  Mae'r pynciau'n drawsgwricwlaidd ac yn annog datblygiad cymdeithasol a deallusol gan ddefnyddio rhaglenni hwyliog a chyffrous.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau arbennig ym mhob un o'r parciau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yn ystod gwyliau'r ysgol.  Mae'r rhain yn cynnwys teithiau cerdded, gweithgareddau crefft a sesiynau adrodd storïau.  Mae Rhaglenni Digwyddiadau ar gael gan Ganolfan Groeso Wrecsam neu unrhyw un o'r canolfannau ymwelwyr.  Mae ein digwyddiadau hefyd ar gael ar-lein yn ein cronfa ddata chwiliadwy.
 
English
 

Gwybodaeth i Dwristiaid

Parciau Gwledig
Strategaeth Cefn Gwlad
Newyddion
Gwasanaeth Cefn Gwlad
Parc Gwledig Melin y Nant
Parc Gwledig Mwynglawdd Minera
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Parc Gwledig Ty Mawr
Parc Gwledig Stryt Las
Llwybr Dyffryn Clywedog
Parciau Gwledig & Digwyddiadau
Teithiau Cerdded Iachus
Gwasanaethau Parciau
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint