Mae'r
Gwasanaeth Cefn Gwlad yn rheoli'r pum Parc Gwledig yn y Fwrdeistref Sirol,
Llwybr Dyffryn Clywedog a rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae'n
ceisio cydbwyso anghenion y bywyd gwyllt a hamdden yn y parciau a hefyd
yn cydweithio gyda'r cymunedau ar fentrau lleol. Mae'n cynnal rhaglen
o ddigwyddiadau cyffrous drwy'r flwyddyn gyda'r pwyslais ar hwyl.
Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad hefyd yn cynnig rhaglen addysgol gynhwysfawr i ysgolion. Mae pob un o'r gweithgareddau wedi'u cysylltu i'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gellir teilwra prosiectau a gweithgareddau arbenigol i gyd-fynd gofynion penodol yr athrawon.
Y gweithgareddau mwyaf poblogaidd yw chwilota mewn afon a chwilota am drychfilod (arolwg o bryfaid a chynefin yn defnyddio allwedd a siartiau adnabod) fodd bynnag, mae'r gwasanaeth cefn gwlad yn cynnig dehongliadau gwahanol o'r amgylchfyd gan ddefnyddio dawns, astudiaethau o'r tywydd, Mathemateg, Saesneg a gemau. Mae'r pynciau'n rhai traws-gwricwlaidd ac yn annog datblygiad cymdeithasol a deallusol trwy ddefnyddio rhaglenni sy'n hwyl ac yn gyffrous.
Mae potensial mawr i astudiaethau Addysg Uwchradd, Pellach ac Uwch yn Wrecsam. Lleolir y pum parc gwledig yn strategol ar draws yr ardal gydag amrediad o gynefinoedd tir gwlyb, coedlannau a glaswelltir sy'n hwyluso cynnal gweithgareddau ecolegol, daearegol, hanes a chelfyddyd.
Trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau'r ysgol cynhelir gweithgareddau arbennig ym mhob n o'r parciau, o deithiau i weithgareddau crefft ac adrodd straeon. Mae rhaglenni digwyddiadau ar gael o'r parciau neu o Ganolfan Groeso Wrecsam.
Ffurflen Sylwadau Parciau Gwledig Ar-Lein