Dewch i ymweld â Pharc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd am gipolwg diddorol iawn ar hanes diwydiannol Dyffryn Clywedog hardd. Lleolir y Mwynglawdd ar flaen y dyffryn, ac mae'n fan cychwyn gwych ar gyfer Llwybr Clywedog neu fel mynediad at gefn gwlad hardd Mynydd y Mwynglawdd. Mwynhewch bicnic neu ewch am dro ar hyd yr hen reilffordd ac archwiliwch Barc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd.
Gall ymwelwyr â’r amgueddfa archwilio olion yr ardaloedd prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif a’r peiriandy, y peiriant weindio a’r boilderdai a adferwyd. O ben y peiriandy, mae yna olygfeydd bendigedig o’r safle a’r cefn gwlad o gwmpas.
Gan gwmpasu 53 erw o laswelltir, llecynnau coediog a safleoedd archeolegol, mae'r Mwynglawdd yn brolio amrywiaeth o fywyd gwyllt a chyfleoedd di-ben-draw i archwilio mewn heddwch a llonyddwch.
Mae mynydd dramatig y Mwynglawdd am y terfyn â'r parc ac yn ychwanegu hyd oed mwy o ddiddordeb ar gyfer cerddwyr brwd.
Mae ardal bicnic sydd â golygfeydd hyfryd o'r dyffryn yn gwneud Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn ddiwrnod allan heb ei ail.
Sut i gyrraedd yno
Lleolir Y Mwynglawdd ger pentrefi New Brighton a'r Mwynglawdd a gellir cyrraedd yno o'r A483, gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer "Clywedog" ar yr A483 a "Pyllau Plwm y Mwynglawdd" ar yr A525.
Oriau agor
Mae'r parc ar agor trwy gydol y flwyddyn.
Cyswllt i oriau agor y Ganolfan Ymwelwyr
Cyfleusterau
- Maes parcio
- Mynediad i bobl anabl
- Grwpiau ysgol trwy drefnu ymlaen llaw
- Toiledau
- Toiledau i bobl anabl
- Sgyrsiau/teithiau cerdded tywysedig
- Addas ar gyfer grwpiau ar fws
Cysylltwch â
Parc Gwledig y Mwynglawdd
d/o Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant
Ffordd Rhos-y-Bers
Coedpoeth
Wrecsam
LL11 3BT
Parc Gwledig Ffôn: 01978 763140
Amgueddfa Ffôn: 01978 261529
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk
|