|
P'un a ydych am ddarganfod hanes a bywyd gwyllt lleol neu fynd am dro ysgogol trwy gefn gwlad godidog, mae'r hen felin yd hon yn fan cychwyn delfrydol.
Mae Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant yn swatio mewn coetir hynafol hardd ar lan yr afon Clywedog ac mae'n cynnig cipolwg cyfareddol ar fywyd Dyffryn Clywedog, sydd ag amrywiaeth o arddangosfeydd.
Gyda phâr o esgidiau cryf, mae Llwybr Clywedog yn cynnig mynediad rhagorol i beth o gefn gwlad gorau Wrecsam. Lleolir Melin y Nant ar hyd y llwybr hwn, sy'n ymlwybro am 6.5 milltir trwy gefn gwlad godidog o Byllau Plwm y Mwynglawdd, trwy Goed Plas Power (lle gellir gweld Clawdd Offa), heibio i Ganolfan Dreftadaeth y Bers a'r Gweithfeydd Haearn i stad Plas Erddig ac ymlaen i Felin y Brenin.
I'r rheiny nad ydynt yn dymuno mentro mor bell â hynny, ceir teithiau cerdded byr sy'n dechrau o'r Ganolfan Ymwelwyr a digonedd o weithgareddau i ddiddanu'r plant. Gallant gerdded trwy dwnnel anferth y twrch daear neu ddefnyddio'r arddangosiad rhyngweithiol i chwarae a dysgu ar yr un pryd! Gallant weld y ffenestr ysgythrog newydd, y moch mawr yn yr hen gwt moch a'r 'Clwydi Cipolwg' sy'n arwain at yr ardal bicnic. Mae yna hefyd le chwarae i blant a nant sy'n hawdd ei chyrraedd.
Mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer rasys hwyaid sy'n hawdd eu cynnal ac yn ffordd wych o godi arian ar gyfer ysgolion neu elusennau. Gellir hurio hwyaid o'r Ganolfan Ymwelwyr.
Sut i gyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr
Lleolir y Ganolfan Ymwelwyr tair milltir i'r gorllewin o Wrecsam ger pentref Coedpoeth. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer "Clywedog" ar yr A483 a "Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant" ar yr A525.
Oriau agor
Mae'r parc ar agor trwy gydol y flwyddyn.
Mae'r Ganolfan Ymwelwyr ar agor:
Pasg i fis Medi – bob dydd o 10.30am hyd 4.30pm
Mis Hydref i'r Pasg – ar benwythnosau'n unig.
Cyfleusterau
- Maes parcio
- Siop
- Grwpiau ysgol trwy drefnu ymlaen llaw
- Toiledau (ar gyfer pobl anabl hefyd)
- Cyswllt
Cysylltwch â
Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant
Ffordd Rhos-y-Bers
Coedpoeth
Wrecsam
LL11 3BT
Ffôn: 01978 752772
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk
|