|
Canol
Tref Wrecsam - Profiad siopa newydd gyda gwerthoedd traddodiadol.
Mae mwy i Wrecsam na siopa'n unig. Mae'n ganolfan ar gyfer busnes, addysg,
hamdden a diwylliant neu i fwynhau a dim mwy.
Ym 1999, ag un ergyd mwy neu lai, ychwanegodd Wrecsam dros 250,000 troedfedd
sgwâr o le siopa adwerthu at ei hamrediad cystadleuol iawn o siopau adnabyddus
a busnesau teuluol. Parhaodd y duedd hon i'r Milflwyddiant wrth i ddatblygiadau
ar gyfer tair siop bwysig (Tesco, Asda a Homebase) gael eu gwireddu.
Er gwaethaf y datblygiadau diweddaraf, mae cyfaredd yr hen strydoedd
a'r rhodfeydd fel Stryt y Banc, Camfa'r Cwn a Rhodfa Owrtyn yn parhau
i swyno'r rhai hynny y mae gwasanaeth personol gan fusnesau bach yn well
ganddynt. At hyn, mae gennym farchnadoedd traddodiadol - tair marchnad
dan do a marchnad awyr agored fwyaf Gogledd Cymru a gynhelir ar ddydd
Llun (gan gynnwys Gwyliau'r Banc) ar Ddôl Eryrod - beth arall allai'r
siopwr craff fod ei angen? Felly os ydych eisiau siopa, Wrecsam yn ddiau
yw'r dewis gorau yng Ngogledd Cymru.
O ran yr anabl, yn Wrecsam gwneir y defnydd mwyaf o Wasanaeth Shopmobility
yng Ngogledd Cymru - ac mae'n rhad ac am ddim! Mae llawer o Ganol Tref
Wrecsam wedi ei phedestreiddio, felly mae symud o gwmpas yn hawdd - hyd
yn oed mewn cadair olwyn. Gall pob deilydd bathodyn oren barcio am ddim
ym mhob un o feysydd parcio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam!
Mae Wrecsam yn gyrchfan hwylus i'w chyrraedd - yn ganolbwynt priffyrdd
da, mae o fewn taith deng munud o Gaer ac yn llai nag awr o Eryri i'r
gorllewin, a'r Amwythig i'r de.
Mae yma ddigonedd o leoedd hwylus i barcio, gyda Meysydd Parcio Cyfnod
Byr yn ymyl canol y dref. Gellir parcio am gyfnodau hir ym maes parcio
Sant Marc (NCP) ym mhen gogleddol Stryt y Rhaglaw neu yn y maes parcio
mwy yn Nôl Eryrod (WCBC), ychydig lathenni o'r Stryt Fawr.
Ond, os ydy'n well gennych deithio ar y trên, mae dwy orsaf reilffordd
yn Wrecsam, mae un ohonynt - yr Orsaf Ganolog a adnewyddwyd yn ddiweddar
- yn swatio yng nghanol y dref rhwng dwy o'r siopau newydd yng Nghanolfan
Siopa'r Werddon a cham bychan o weddill Canol y Dref.
Mae'n werth talu ymweliad ag Amgueddfa Wrecsam a Llyfrgell y Fwrdeistref
Sirol, ond os ydych yn teimlo'n fwy egnïol, beth am ddod i'r Byd Dwr i
nofio - mae'r cyfan yng Nghanol y Dref.
Mae bwyta allan yn Wrecsam yn un o hoff bleserau hamdden nifer o bobl,
ceir amrediad o dai bwyta, tafarndai a lleoedd prydau parod i ddewis ohonynt
yng nghanol y dref.
Mae'n amhosibl anwybyddu prif dirnod Wrecsam, eglwys San Silyn, mae ei
thwr sy'n un o Saith Rhyfeddod Cymru wedi edrych lawr ar y newidiadau
niferus i'r Stryt Fawr dros bum canrif. Er hynny, rydym yn amau na fu'r
un cyfnod yn hanes Wrecsam mor ddeinamig â'r ychydig flynyddoedd diwethaf,
a dyna pham y mae Wrecsam yn brofiad newydd - hyd yn oed i'r ymwelwyr
rheolaidd!
|