Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Llwyddo gyda SEO

Noder y bydd digwyddiadau yn ymddangos yn yr iaith iddynt eu cyflwyno.

Sylwer, efallai y bydd rhai digwyddiadau yn cael eu gohirio neu eu canslo oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Cynghorir chi i wirio â threfnydd y digwyddiad o flaen llaw.

Mae eich dewis wedi cyflwyno 1 digwyddiad.

Llwyddo gyda SEO

Bod yn amlwg - sut i wella gwelededd eich busnes! Nid yw 75% o ddefnyddwyr fyth yn mynd heibio tudalen gyntaf canlyniadau chwilio. Ymunwch â gweithdy Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cyngor ymarferol ac arbenigol wedi ei gynllunio i'ch helpu chi i ddeall sut i ddefnyddio SEO i roi eich busnes ar frig canlyniadau peiriant chwilio. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o'r ffordd mae peiriannau chwilio yn graddio eich tudalennau gwe, pam mae hi mor bwysig i chi ddefnyddio arferion gorau SEO, a sut i weithredu cynllun SEO gan ddefnyddio technegau ar y dudalen ac oddi arni. Byddwch yn dysgu: •Sut mae peiriannau chwilio yn graddio eich gwefan •Offer sylfaenol i fonitro a gwella eich gweithgareddau SEO •Sut i nodi geiriau allweddol/ymadroddion gorau ar gyfer eich busnes •Sut i greu cynllun gweithredu SEO a strategaeth hirdymor •Awgrymiadau a thechnegau effeithiol ynghylch gwella eich SEO •Sut i fesur beth sy'n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio

Lleoedd: The Atrium Suite, Wrexham, LL13 9XT
Dyddiad: 25/01/2018
Amseroedd: 09:00 - 13:00

Addas ar gyfer

Cyswllt Superfast Business Wales ar 03000 6 03000 neu ebost businesssupport@wales.gsi.gov.uk

Gwefan: https://wales.business-events.org.uk/en/events/superfast-business-wales-winning-with-seo/ (cysylltiadau allanol)

Pris Tocyn: £0

Dyddiad cyflwyno’r digwyddiad: 29 December 2017 | Dolen i’r digwyddiad yma: www.wrexham.gov.uk/welsh/leisure_tourism_w/WhatsOnActionW.cfm?Event_ID=11444