Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Testun Gwefan

Noder y bydd digwyddiadau yn ymddangos yn yr iaith iddynt eu cyflwyno.

Sylwer, efallai y bydd rhai digwyddiadau yn cael eu gohirio neu eu canslo oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Cynghorir chi i wirio â threfnydd y digwyddiad o flaen llaw.

Mae eich dewis wedi cyflwyno 1 digwyddiad.

Testun Gwefan

Ydych chi’n teimlo bod adeiladu a chynnal eich gwefan yn gostus? Ydi’r ffaith nad ydych yn ei rheoli'n llawn yn anodd? Ydych chi wedi cael llond bol ar safleoedd ansawdd isel, am ddim? Mae adeiladu eich gwefan o safon, gyda'ch enw parth, cyfeiriadau e-bost, cynnwys a dyluniad eich hun yn rhwydd -ac yn gost effeithiol - nid oes angen rhaglennu. Mae angen ychydig o hyfforddiant ac ymarfer; mae ein rhaglen yn esbonio nodweddion cadarnhaol a negyddol y dull hwn. Byddwn yn dangos y camau allweddol i chi – gyda chyfoeth o awgrymiadau – rydym wedi gwneud hyn fel busnes bach. Nid yw ein rhaglen yn addas i ddatblygwyr na rhaglennwyr – ein hamcan yw cynnig dosbarth cam wrth gam i chi sy’n dangos sut mae’r adnodd yn gweithio – a’r camau sydd angen i chi eu dilyn. Nid yw’n rhaglen “ymarferol” 'chwaith - felly dim ond bod yna pan rydych wedi archebu lle sydd angen. Mae ein dull yn arddangos adnoddau meddalwedd sy’n darparu gwefan addasl i ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron. Ar ddiwedd y rhaglen, byddwn yn dosbarthu canllaw cam wrth gam. Mae’r cwrs undydd hwn wedi’i ddylunio i’ch gwneud yn ymwybodol o’r medrusrwydd sydd ar gael, a sut y gallwch ei ddefnyddio – a’r costau sydd ynghlwm â hynny. Cost y rhaglen yw £75.00 am y diwrnod. Nid amcan ein busnes yw adeiladu gwefannau i chi, mae’n well o lawer eich bod yn dysgu sut i wneud hynny eich hun. Ein manylion cyswllt am ragor o wybodaeth yw mailto:admin@data-trainingworx.co.uk Ewch i’n gwefan https://data-trainingworx.co.uk am fanylion, telerau/amodau a’r broses archebu lle. Bydd lleoliad ac amser yn cael eu cadarnhau.

Lleoedd: To be confirmed
Dyddiad: 22/08/2018
Amseroedd:

Addas ar gyfer

Cyswllt Data-Trainingworx ar neu ebost admin@data-trainingworx.co.uk

Gwefan: https://data-trainingworx.co.uk (cysylltiadau allanol)

Pris Tocyn: £75

Dyddiad cyflwyno’r digwyddiad: 04 May 2018 | Dolen i’r digwyddiad yma: www.wrexham.gov.uk/welsh/leisure_tourism_w/WhatsOnActionW.cfm?Event_ID=11732