Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Darganfyddwch Eich Gwir Botensial

Noder y bydd digwyddiadau yn ymddangos yn yr iaith iddynt eu cyflwyno.

Sylwer, efallai y bydd rhai digwyddiadau yn cael eu gohirio neu eu canslo oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Cynghorir chi i wirio â threfnydd y digwyddiad o flaen llaw.

Mae eich dewis wedi cyflwyno 1 digwyddiad.

Darganfyddwch Eich Gwir Botensial

Ydych chi’n codi yn y bore yn sionc neu ydi meddwl am godi a mynd i’r gwaith yn codi ofn arnoch chi? Neu efallai eich bod eisiau symud ymlaen â’ch gyrfa ond yn teimlo eich bod yn cael eich anghofio? Ai rheswm posibl ydi nad ydych yn gweithio i'ch llawn botensial? Os nad ydych chi’n gweithio i’ch cryfderau gallwch deimlo’n ddigalon, teimlo nad ydych yn cael eich gwerthfawrogi a chael anhawster i gymell eich hun a bod yn gyffrous ynghylch gwaith. Trwy wybod a deall eich gwir gryfderau gallwch newid y teimlad yma. Trwy ddefnyddio Strengthscope, y system proffilio cryfderau mwyaf cynhwysfawr ac arloesol i rymuso anterth perfformiad, byddwch yn darganfod eich gwir gryfderau a thalentau cudd. Cyn y gweithdy, bydd gofyn i chi lenwi eich proffil Strengthscope a fydd yn rhoi golwg gynhwysfawr o'ch saith prif gryfder yn ogystal â'ch cryfderau sy'n mudferwi, gall y cryfderau hyn godi i'r wyneb gydag ychydig o anogaeth a chefnogaeth. Yn ystod y gweithdy byddwch yn dysgu sut gall eich saith cryfder eich grymuso i fod yr unigolyn roeddech eisiau bod yn y gwaith. Byddwch yn dysgu sut i weithio gyda’ch cryfderau a sut i aros ar y brig. Byddwch hefyd yn dysgu beth sy'n digwydd pan fydd eich cryfderau yn mynd yn rhy bell a sut y gall droi cryfderau mewn i wendidau. Byddwch yn dechrau deall sut all gweithio gyda phobl eraill sydd â chryfderau gwahanol i chi arwain at dîm anorchfygol. Yn ystod y gweithdy byddwch yn edrych ar eich cryfderau yn fwy manwl, gan ddysgu sut i’w defnyddio orau yn ogystal â chreu cynllun ymarferol i’ch helpu i symud ymlaen. Strengthscope yw'r system proffilio cryfderau mwyaf cynhwysfawr ac arloesol i rymuso anterth perfformiad yn y gwaith. Dyma’r unig asesiad cryfderau sydd wedi cyflawni Statws Prawf Cofrestredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain.

Lleoedd: Springfield Hotel and Health Club, A55, CH8 8BA
Dyddiad: 27/09/2018
Amseroedd: 09:30 – 16:00

Addas ar gyfer

Cyswllt Cat Williams ar neu ebost

Gwefan: https://www.eventbrite.co.uk/e/discover-your-true-potential-tickets-46105457665 (cysylltiadau allanol)

Pris Tocyn: £175 – £195

Dyddiad cyflwyno’r digwyddiad: 20 June 2018 | Dolen i’r digwyddiad yma: www.wrexham.gov.uk/welsh/leisure_tourism_w/WhatsOnActionW.cfm?Event_ID=11831