Taith Wrecsam

Dyfrbont Froncysyllte

Ystyrir Traphont Ddwr Pontcysyllte yn gyffredinol fel un o brif lwyddiannau peirianneg sifil Thomas Telford. Ar y pryd, roedd ei adeiladwaith yn chwyldroadol, nid yn unig oherwydd ei faint dramatig a'i leoliad, ond cynlluniodd Telfod, gan wrthod bob rhagesiamplau gafn haearn bwrw 3.25 metrau o led, 307 metrau o hyd a osodwyd ar hyd 18 piler garreg i gludo'r ddyfrffordd 37 metrau uwchlaw yr Afon Ddyfrdwy. Gosodwyd y garreg gyntaf yng Ngorffennaf 1795 ac fe gymerwyd deng mlynedd i'w hadeiladau a chyfanswm y gost oedd 47,018.

Traphont Ddwr Pontcysllte yw un o brif atyniadau twristiaid o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gellir cael mynediad o'r ddau ben - o Drefor (arwydd ar yr A539) neu o Froncysyllte (arwydd ar yr A5(T)). Mae maes parcio ar gael ar y ddau ben y Draphont Ddwr. Mae cerdded ar draws y Draphont yn brofiad gwych, gan ei bod 37 metrau uwchlaw yr Afon Ddyfrdwy ac fe allwch weld golygfeydd panoramig o'r ardal gyfan. Fodd bynnag, nid yw'n addas ar gyfer y rhai sydd ofn uchder! Adlewyrchir pwysigrwydd rhyngwladol y Draphont Ddwr oherwydd iddi gael ei chynnwys ar restr ymgeisiadau o enwebiadau i'r dyfodol ar gyfer dynodiad Safle Treftadaeth Byd UNESCO.

Mae'n bosibl hurio cwch camlas i'r rhai anturus ym Marina'r Waun (Ffn: 01691 774558) neu ym masn Trefor (Ffn: Anglo Welsh ar 01978 821749) a chroesi'r Draphont Ddwr ar gwch, ar y llaw arall, mae tripiau cwch camlas ar gael i'r rhai sydd am eistedd yn l a mwynhau'r profiad.

 

yn ôl i'r brig