Taith Wrecsam

Clwydi Castell y Waun

Mae'r dyddiad 1719 ar glwydi mynedfa Castell y Waun, ac arnynt hefyd mae arfbais teulu'r Myddleton o Gastell y Waun. Gwnaed y clwydi gan y Brodyr Davies, Robert a John, gofaint o fri o efail Croesfoel ger y Bers, Wrecsam, ac fe'u gosodwyd rhwng 1719 a 1721. Yn wreiddiol, roeddynt yn wyn, ond fe gawsant eu peintio'n ddu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ddiweddar iawn cawsant eu peintio'n l i'w lliw gwreiddiol.

 

yn ôl i'r brig