
Y Waun
Saif tref y gororau hon ar sgarp uwchlaw'r pwynt lle mae'r afonydd Ceiriog a'r Dyfrdwy yn cwrdd. Achosodd safle'r Waun i'r Normaniaid adeiladu castell mwnt a beili yn gynnar yn y 12fed ganrif. Ym 1310 cwblhawyd Caer Gororau Castell y Waun, a heddiw, mae'n parhau i warchod y fynedfa i Ddyffryn Ceiriog. Yn y 19eg ganrif, datblygwyd cysylltiadau ffyrdd, rheilffordd a chamlesi hanfodol. Daeth y Waun yn fan codi ar lôn bost Llundain i Gaergybi, tra cyrhaeddodd cangen Llangollen o Gamlas y Shropshire Union y Waun ym 1801. Heddiw, mae'r Waun â phrif reilffordd yn cysylltu Caer a'r Amwythig, gyda chysylltiadau â'r rhwydwaith Intercity. Dau gam o'r dref yw'r Draphont Ddwr ragorol, a'r draphont baralel yn pontio Dyffryn Ceiriog, ac yn cysylltu Lloegr â Chymru. Mae atyniadau eraill yn cynnwys Castell y Waun, Canolfan Hamdden fodern gyda phwll nofio, Marina'r Waun a'r Clwb Golff.