
Plas Erddig
Erddig, Wrecsam, LL13 0YT
Ffôn: 01978 355314
Llinell Wybodaeth: 01938 557019
Ffacs: 01978 313333
E-bost: erddig@smtp.ntrust.org.uk
Un o'r tai mwyaf diddorol ym Mhrydain, nid yn unig oherwydd y closrwydd anarferol oedd rhwng teulu'r ty a'u gweision a'u morwynion. Mae'r ystod o gytiau a thai allan hardd atgofus yn cynnwys cegin, golchdy, becws, stablau, melin lifio, gof a gweithdy'r saer, tra mae'r ystafelloedd swyddogol yn arddangos y rhan fwyaf o'u dodrefn, carpedi a llenni gwreiddiol o'r 18fed a 19eg ganrif, gan gynnwys papur wal Sineaidd rhagorol. Mae'r ardd fawr furiog wedi cael ei hadfer i'w chynllun 18fed ganrif gyda llawr (parterre) Fictorianaidd a llwybr yw. Hefyd mae'n cynnwys Casgliad Cenedlaethol o Eiddew. Mae yno barc enfawr gyda nifer o lwybrau trwy'r coed. Enillydd Rhanbarthol Gwobr Treftadaeth Cenedlaethol NPI 1999/2000.
Oherwydd breuder mawr eu cynnwys, nid yw'r ystafell Dapestri na'r Ystafelloedd Sineaidd Bach ar agor, heblaw am ddydd Mercher a dydd Sadwrn yn unig. Nid oes gan y rhan fwyaf o'r ystafelloedd olau trydan, felly dylai ymwelwyr sydd am astudio lluniau a thecstiliau'n fanwl osgoi dyddiau dwl.
I dderbyn manylion ynghylch y rhestr faith o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, anfonwch amlen barod â stamp at y Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yn y cyfeiriad uchod.