Gwybodaeth Bellach

Mae Rhithdaith Wrecsam yn rhoi blas o’r dref, atyniadau a phentrefi’r ardal.  Ni fu’n bosibl cynnwys lluniau rhyngweithiol o’r holl leoedd o ddiddordeb ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ar y fersiwn hwn.  Ond gobeithir yn fawr y bydd fersiynau’r dyfodol o’r CD ROM yn cynnwys mwy o luniau rhyngweithiol o leoedd o ddiddordeb.  I gael y fersiwn diweddaraf o’r Rhithdaith ymwelwch â gwefan Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar www.wrecsam.gov.uk.  Cyhoeddwyd y fersiwn hwn ym Mai 2001.

Wrecsam

Wrecsam yw’r prif ganolfan siopa a masnach yng Ngogledd Cymru.  Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu o dref farchnad fechan i fod yn ganolfan gyfoes, fywiog sy’n gobeithio ennill statws dinas brifysgol.  Ers 1999 mae datblygiadau gwerth dros £150 miliwn wedi trawsnewid y dref, gan gynnwys dwy ganolfan siopa newydd a strydoedd i gerddwyr yn unig, gan greu amgylchedd pleserus i siopa.

Mae’r dref wedi cadw ei chymeriad cyfeillgar a’i hawyrgylch.  Mae hyn yn amlwg yn y lluniau rhyngweithiol sydd wedi eu cynnwys yn y Rhithdaith.  Canolbwynt dinesig y dref yw’r ardal o amgylch Llwyn Isaf, sy’n cynnwys Neuadd y Dref , Swyddfeydd y Cyngor, y Llyfrgell a’r Ganolfan Gelf ac ychydig ymhellach draw mae’r Llysoedd, Y Neuadd Goffa a’r Orsaf Heddlu.

Trwy gydol pob newid ers 1520 mae tref Wrecsam wedi bod dan drem Eglwys San Silyn sy’n un o Saith Hynodion Cymru a man claddu Elihu Yale, cymwynaswr Prifysgol Yale yr UDA.  Mae hanes y dref a’r ardal wedi ei gofnodi gan Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n cael ei ddangos yn y Rhithdaith.  Mae’r Llyfrgell a’r Ganolfan Gelf hefyd yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes lleol a gwybodaeth arall. Mae Wrecsam gyfoes ag enw cynyddol dda fel lleoliad ar gyfer prif gystadlaethau chwaraeon.

Mae pêl-droed a rygbi rhyngwladol bellach yn ddigwyddiadau blynyddol ar y Cae Ras gyda’i Eisteddle Pryce Griffiths newydd.  Mae’r Byd Dwr yn ganolfan nofio gyfoes sy’n ateb gofynion pob lefel gallu nofio.  Mae’r ddwy ganolfan yn ymddangos yn y Rhithdaith.

Gororau Gogledd Cymru

Saif Wrecsam yng nghanol ‘Gororau Gogledd Cymru’ sef yr enw a ddefnyddir i farchnata’r ardal, sy’n cynnwys y cyfan o Ogledd-ddwyrain Cymru.  Mae nifer o gyhoeddiadau ymwelwyr yn ymdrin ag ardal ‘Gororau Gogledd Cymru’ - mae’r rhain ar gael yng Nghanolfan Croeso Wrecsam.

Mae rhan Wrecsam o’r Gororau yn eithaf amrywiol o fewn ardal weddol gyfyng. I’r de-orllewin o Wrecsam mae’r Waun a Dyffryn Ceiriog.  Mae Castell y Mers yn y Waun (eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yn gwarchod y fynedfa i Ddyffryn Ceiriog brydferth a chudd, y lleoliad ar gyfer harddwch cerdyn llun, pentref Llanarmon Dyffryn Ceiriog a phentrefi bychain eraill.  Yma, ym Mynyddoedd y Berwyn mae dechrau‘Gwyllt Walia’.

Mae’r Rhithdaith yn cynnwys Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Pandy, Y Waun a golygfa gyffredinol o’r ardal hyfryd hon.I’r de-ddwyrain o Wrecsam mae Gwastadeddau irlas Sir Gaer yn dechrau eu trawsffurfiad i fryniau Cymru, gyda phentrefi tlws fel Hanmer, Erbistock ac Owrtyn.  Ar lannau Afon Dyfrdwy lydan saif Bangor Is-coed gyda’i gae rasio hela cenedlaethol.  Mae lluniau o’r pentref a’r cae ras yn y rhithdaith.  Mae Rhiwabon yn gynrychioladol o’r ardal i’r gogledd a’r gorllewin o Wrecsam.  Mae’r rhan hon o Ororau Wrecsam yn fwy trefol gyda phentrefi mawr.

Mae nifer o safleoedd eraill o bwys yn yr ardal megis Plas Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda’i hanes i fyny ac i lawr y grisiau, a Chamlas enwog Llangollen, efallai mai dyma ran brydferthaf unrhyw gamlas, a gyfoethogir gan nodweddion mawr megis Traphont Ddwr Thomas Telford ym Mhontcysyllte (Safle arfaethedig Treftadaeth y Byd) a Traphont Ddwr a thwnnel y Waun.  Mae’r rhain i gyd yn cael lle iddynt eu hunain yn y Rhithdaith, ynghyd â nifer o atyniadau eraill sef  Pyllau Plwm Mwynglawdd, Parc Gwledig Ty Mawr, a Chanolfannau Hamdden Plas Madoc a’r Waun.

Teithio

I ymwelwyr sy’n defnyddio cludiant cyhoeddus, yn ogystal â’r prif reilffyrdd mae sawl rheilffordd ranbarthol a rhwydweithiau bws yn gwneud yr ardal yn un hawdd ei chyrraedd.

Rheilffordd

Mae’r brif rwydwaith rheilffyrdd yn ymestyn o Gaer i Wrecsam ac i’r de i’r Amwythig a Birmingham trwy Rhiwabon, Y Waun a Gobowen gyda chysylltiadau sy’n mynd ymlaen  yn Amwythig i Aberystwyth, Pwllheli a Chaerdydd ac yng Nghaer ar gyfer Arfordir Gogledd Cymru, Caergybi a Crewe.

Mae dwy reilffordd yn gwasanaethu Wrecsam - Rheilffordd y Gororau (Rheilffordd Wrecsam Canolog, Shotton, Penbedw Bidston) sy’n cysylltu â Gwasanaeth Mersyrail West Kirby- Lerpwl a Rheilffordd Caer- Amwythig.

Ffoniwch Amserlenni Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 484950 am fanylion amseroedd a phrisiau teithio ar y trenau. Neu defnyddiwch y wefan www.nationalrail.co.uk.  I gael gwasanaeth Cymraeg ffoniwch 08457 604 0500.  Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i drefnu eich taith, ffoniwch  08457 056027.  Mae ‘Pas Fflecsi’ Crwydro Cymru yn cynnig teithio di‑ben‑draw ar bob prif wasanaeth rheilffordd yng Nghymru ynghyd â’r rhan fwyaf o wasanaethau bws rhestredig.  Mae tocynnau ar gael o’r rhan fwyaf o orsafoedd rheilffyrdd neu drefnwyr teithio penodedig y rheilffyrdd.

Bws

Am wybodaeth ynghylch gwasanaethau ac amseroedd bws, ffoniwch y linell ymholiadau bws ar 01978 266166.

Hedfan

Dim ond oddeutu 45 munud yw Wrecsam o Faes Awyr Ryngwladol Manceinion ar hyd traffyrdd yr (M53, M56, A483/A5(T)).

Teithio ar Long

Mae Stena Lines ac Irish Ferries yn gwasanaethu rhwng Caergybi a Dun Laoghaire/Dulyn.

Car

Mae Wrecsam wedi ei chysylltu’n uniongyrchol â’r system traffyrdd cenedlaethol drwy’r

A483T/A5T i’r M53 a gweddill y rhwydwaith traffyrdd. Fel canllaw dyma’r pellteroedd yn fras:

Wrecsam Birmingham  Caergybi Lerpwl     Llundain Manceinion
70 milltir        86 milltir   34 milltir 183 milltir   56 milltir

        

Llety

Mae gan Wrecsam lety i blesio pawb beth bynnag fo’u gofynion, o westai gwledig moethus i ffermydd cyfeillgar ac eiddo hunanarlwyo mewn safleoedd godidog.  I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lety neu i neilltuo lle, cysylltwch â Chanolfan Croeso Wrecsam.

Roedd y rhestr ganlynol yn gywir ym Mawrth 2001.  Mae wedi ei rhannu i lety a wiriwyd gan Fwrdd Croeso Cymru a llety sydd heb ei wirio ganddynt.  Mae’r llety hefyd wedi ei rannu yn ôl ardal.

 

Cysylltiadau i gael rhagor o wybodaeth

Mae’r Ganolfan Croeso yn gallu rhoi gwybodaeth gyfredol ar lety (argaeledd a phrisiau), cludiant cyhoeddus, digwyddidau a gweithgareddau, atyniadau a lleoedd eraill o ddiddordeb. Gellir trefnu llety drwy’r Ganolfan.

Mae Swyddfa Gynadledda Wrecsam yn cynnig Cyngor ar leoliadau addas, llogi lleoliadau a llety, cynghori ar deithio, rhaglenni gweithgaredd a phartneriaid a’r holl gefnogaeth angenrheidiol i gynorthwyo trefnwyr cynadleddau i gynllunio cynhadledd neu gyfarfod llwyddiannus.

Ymwadiad

Sylwer, tra gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamgymeriadau yn y CD Rom hon.