
Pyllau Plwm y Mwynglawdd
Ffordd y Wern, Y Mwynglawdd, Wrecsam, LL11 3DU
Ffôn: 01978 261529
Ffacs: 01978 361703
E-bost: museum@wrexham.gov.uk
Mae Pyllau Plwm a Pharc Gwledig y Mwynglawdd yn cynnig cip olwg hudol i orffennol diwydiannol Dyffryn Clywedog. Wedi ei leoli ar flaen y Dyffryn, mae'r Mwynglawdd yn fan gwych i gychwyn ar Drywydd Clywedog, neu i weld cefn gwlad bendigedig Mynydd y Mwynglawdd. Mwynhewch bicnic, neu ewch am dro ar hyd hen yr hen reilffordd ac yna fforio'r Parc Gwledig, gyda'i olygfeydd godidog o'r wlad o'i amgylch. Gall ymwelwyr fforio olion y mannau prosesu plwm o'r 19eg ganrif, ac adeilad y peirianwaith a ailadeiladwyd, neu ceisiwch badellu am blwm, ac yn y Ganolfan Ymwelwyr cewch ddysgu mwy am ddaeareg a hanes cymdeithasol a diwydiannol cloddio am blwm yn yr ardal, gan gynnwys tystiolaeth o gloddio Rhufeinig.