
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu, Wrecsam , LL11 1AU
Gwasanaethau Benthyg: 01978 292090
Gwasanaeth Cyfeiriol a Gwybodaeth: 01978 292091
Llinell Busnes: 01978 292092
Ffacs: 01978 292611
E-bost: reference.library@wrexham.gov.uk
Mae Llyfrgell Wrecsam yn darparu ystod lawn o wasanaethau benthyg a gwybodaeth i bawb. Mae llyfrau (gan gynnwys print bras a llyfrau llafar), cylchgronau, papurau newydd, CD a chasetiau cerddoriaeth, fideos a phecynnau dysgu agored i gyd ar gael i'w benthyg neu i gyfeirio atynt. Mae'r gwasanaethau arbenigol yn cynnwys Canolfan Dysgu Gydol Oes, Llinell Fusnes, Canolfan Gwybodaeth Ddemocratig a chasgliad Astudiaethau Lleol. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys mannau astudio, cyfrifiaduron, mynediad i'r Rhyngrwyd, CD-Romau, peiriant ffacs, llungopo lliw a du a gwyn. Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn i bob rhan o'r llyfrgell. Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam hefyd yn darparu rhwydwaith o lyfrgelloedd cangen gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.
Am wybodaeth bellach ynghylch yr ystod o lyfrgelloedd, gwasanaethau a digwyddiadau arbennig, ymwelwch gwefan y Cyngor ar www.wrecsam.gov.uk