
Pandy
Ystyr 'Pandy' yw 'melin bannu', felly nid oes syndod mai prif adeilad y pentrefan hwn yw'r hen felin bannu. Wedi ei addasu'n dafarn, mae'n bongamu dros ffrydiau Afon Ceiriog wrth ymlwybro i lawr i gwrdd ag Afon Dyfrdwy ger y Waun. Uwchlaw'r pentrefan mae Craig Pandy yn ymgodi. Craig wych i ddringo - gyda gofal. Ar gwr Pandy yn fferm Pont y Meibion mae cofadail i Huw Morris sef 'Eos Ceiriog' (un o feirdd nodedig Dyffryn Ceiriog), yn enwog am ei farddoniaeth a'i delynegion caru.