Taith Wrecsam

Rhiwabon

Rhiwabon

Saif Rhiwabon i'r de o Wrecsam ger yr A483(T), ac mae'n derbyn gwasanaeth rheilffordd Caer i'r Amwythig. Gorsaf Rhiwabon yw'r orsaf drenau agosaf i Langollen.

Mae Rhiwabon yn gymysgedd o'r hen a'r newydd.  Prif dirnodau canol y pentref yw gwesty Georgaidd ac Eglwys y Santes Fair.  Cofnodwyd yr Eglwys, sy'n restredig fel adeilad Gradd I, yn gysegredig i Sant Collen ym 1253.  Mae gan yr Eglwys dwr o'r 14eg ganrif.  Yn hanesyddol, Rhiwabon oedd cartref y teulu Cymreig pwerus Williams Wynn. Hefyd rhoddodd ei enw i frics Rhiwabon - y fricsen loyw, gadarn goch, sy'n amlwg yn adeiladau ardal Wrecsam a thu hwnt.

 

yn ôl i'r brig