Taith Wrecsam

Canolfan Croeso

Canolfan Croeso

Canolfan Croeso, Stryt y Lampint, Wrecsam LL11 1WN.

Ffôn: 01978 292015
Ffacs: 01978 292467 
E-bost: tic@wrexham.gov.uk

Llun - Gwe. 10.00a.m. - 5.00 p.m.
Sad. 9.00a.m. - 4.00 p.m.

Mae Canolfan Croeso Wrecsam yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau ar gyfer ymwelwyr. Yn y Ganolfan, gellir archebu ystod lawn o letyau lleol a chenedlaethol.  Mae gan y Ganolfan wybodaeth gyfredol ynghylch digwyddiadau lleol, atyniadau a chanolfannau gweithgareddau.  Mae manylion Cludiant Cyhoeddus, ynghyd â gwasanaeth cynllunio taith ar gael. Mae'r Ganolfan hefyd yn gweithredu fel swyddfa docynnau ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau mawr a chyngherddau lleol.  Gwerthir swfenîrs, mapiau a theithlyfrau hefyd.  Er bod y Ganolfan yn canolbwyntio yn bennaf ar ardal Wrecsam a Gogledd Cymru, mae gan y Ganolfan lyfrgell ymchwil o ddefnyddiau a thaflenni twristiaeth/hamdden o rannau eraill o Brydain.

 

yn ôl i'r brig