Taith Wrecsam

Parc Gwledig Ty Mawr

Parc Gwledig Ty Mawr

Lôn Cae Gwilym, Cefn Mawr, Wrecsam, LL14 3PT

Ffôn: 01978 822780
E-bost: countryparks@wrexham.gov.uk

Wedi ei leoli ar lannau Afon Dyfrdwy, mae Parc Gwledig Ty Mawr yn cynnig golygfeydd panoramic ar draws Dyffryn Llangollen hyd at Draphont Cefn a ThraphontDdwr Pontcysyllte.  Mae'n bwynt cychwyn ardderchog ar gyfer Trywydd Cenedlaethol Clawdd Offa, Camlas Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy.  Mae cyfoeth o fywyd gwyllt yno ac maent yn ffermio'n organig, mae Ty Mawr yn parhau i gadw dolydd gwair ar hyd yr afon mewn modd traddodiadol, gan gadw hwyl ffermio, ble mae teuluoedd yn gallu mwynhau bwydo'r anifeiliaid, fforio'r man chwarae neu fwynhau picnic.  Mae'r Ganolfan Ymwelwyr yn darparu gwybodaeth bellach ynghylch y Parc a gweithgareddau cefn gwlad lleol eraill. 

 

yn ôl i'r brig