Taith Wrecsam

Traphont a Dyfrbont Y Waun

Traphont a Dyfrbont Y Waun

Er ei bod yn cael ei chysgodi i ryw raddau gan Draphont Ddwr Pontcysyllte, mae Traphont Ddwr y Waun sy'n gyfrannol hardd yn cael ei chyfrif yn waith pwysig ynddi ei hunan.  Adeiladwyd y Draphont Ddwr rhwng 1796 a 1801 ar gost o £20,898.  Mae'n cynnwys deg colofn fwa, bob un yn pontio 40 troedfedd.  Mae'r draphont ddwr yn cludo'r gamlas 70 troedfedd uwchlaw Afon Ceiriog am bellter o 710 troedfedd.  Ar yr olwg gyntaf, mae'n debyg i'r traphontydd dwr wedi eu leinio â chlai traddodiadol, ond defnyddiwyd cysyniad hollol newydd yn y Waun. Ffurfiwyd gwely'r cafn gyda chyfres o blatiau haearn bwrw, wedi eu bolltio at eu gilydd i ffurfio cafn dwrglos, yna adeiladwyd y waliau ochr gyda cherrig o chwarel leol.  Y gamlas, wrth gwrs yw Cangen hardd Llangollen o Gamlas y Shropshire Union. 

Yn gyfochrog â'r Draphont Ddwr  mae Traphont y Waun, sy'n cludo lein rheilffordd Caer i'r Amwythig.  Gwaith peiriannydd o'r Alban, Henry Robinson yw hi, ac fe'i hadeiladwyd rhwng 1846-48 ac ail adeiladwyd ym 1858.  Mae'n 100 troedfedd o uchder gyda 10 phont gyda bwâu crynion rhwng ategweithiau pediment.  Ceir tri bwa arall naill ben i'r draphont gyda'r dyddiad 1858-9 a ddisodlodd pontiadau pren gynt.   Mae'r draphont yn sefyll tua 30 troedfedd uwchlaw'r draphont ddwr.

Mae posib gweld y draphont ddwr a'r draphont oddi ar y B4500, Ffordd y Waun i Glyn Ceiriog a gellir cerdded ar hyd llwybr ger y gamlas fel mae'n cael ei chludo gan y draphont ddwr.

 

yn ôl i'r brig