|
Mae’r dosbarthiadau hyn yn sesiynau yn y dŵr sydd wedi’u llunio’n arbennig i ferched beichiog a merched sydd newydd gael babanod. Maent yn cael eu cynnal yn Wrecsam gan hyfforddwr ymarfer corff sydd wedi cwblhau cwrs arbennig ar addysgu merched beichiog ac mae’n bosibl y bydd bydwraig yn bresennol mewn rhai sesiynau hefyd.
Mae nifer o fanteision i ymarfer corff yn y dŵr:
- Mae’n fath diogel o ymarfer corff yn ystod eich beichiogrwydd ac ar ôl i chi roi genedigaeth a gall eich helpu i deimlo’n dda.
- Mae’n rhoi cyfle i chi gyfarfod â phobl newydd.
- Gall eich helpu i gael esgoriad byrrach a mwy gweithredol a lleihau’r siawns o orfod cael cymorth (‘ventouse’ neu efeiliau) neu lawdriniaeth (toriad Ceseraidd) wrth roi genedigaeth.
- Gall leddfu iselder ysbryd cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth.
- Mae’n gyfle i chi gael hwyl ac ymlacio ac mae’n eich rhyddhau rhag pwysau eich beichiogrwydd!
- Nid oes angen i chi allu nofio i gymryd rhan. Mae’r holl sesiynau’n cael eu cynnal mewn dŵr o ddyfnder y gallwch sefyll ynddo ac yn cael eu goruchwylio gan achubwr bywydau cymwys yn ogystal â’r hyfforddwr.
Mae’r sesiynau newydd hyn yn cael eu cynnal ym Mhlas Madoc ac yn y Byd Dŵr (mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig). Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag un o’r canolfannau hamdden (mae’r manylion isod) neu ffoniwch y Swyddog Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dŵr ar 01978 297353.
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc
Ffôn: 01978 821600
Dydd Gwener 11.30am-12.00pm
Pris sesiwn £2.30 (£2.00 gyda Cherdyn Pur)
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dŵr
Ffôn: 01978 297300
Nos Fercher 7.15-7.45pm
Pris sesiwn £2.30 (£2.00 gyda Cherdyn Pur)
|