Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Bonc Yr Hafod

 

Lleolir Bonc yr Hafod, sef Parc Cymunedol yr Hafod, ar hen domen pridd gwastraff yr Hafod. Plannwyd miloedd o goed ar y safle i wneud yr Hafod yn un o'r coetiroedd cymunedol mwyaf yng ngogledd orllewin Cymru.

Mae'r Hafod yn cwmpasu bron i 90 erw ac yn cynnwys bryn mawr a adnabyddir yn lleol fel y mynydd picnic. Mae rhwydwaith o lwybrau yn eich arwain i ben y bryn lle ceir golygfeydd godidog o'r cefn gwlad cyfagos. Ar ddiwrnod clir, mae'r golygfeydd hyn yn ymestyn mor bell ag Ardal y Copaon.

Gellir hefyd gweld cerflun sy'n dathlu'r gwahanol ffyrdd y defnyddiwyd y tir ar ben y bryn. Gwnaed y cerflun ar ffurf deial haul sy'n newid dros amser, ac mae'r cerflun yn coffáu glowyr yr ardal yn ogystal â darlunio'r bywyd gwyllt sydd bellach yn byw yn y parc.

Mae'r parc wedi'i ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae ganddo sawl pwll sy'n gartref i'r fadfall ddwr gribog brin. Mae hefyd yn gartref i'r ehedydd, sydd hefyd dan fygythiad, ond mae'r Hafod yn darparu'r cynefin perffaith iddo oroesi.

Sut i gyrraedd y parc

Gellir dod o hyd i'r Hafod drwy droi am y Plasau ar yr A483 ac anelu am Johnstown. Cymerwch y troad cyntaf i'r dde am "Dennis' of Ruabon" Mae maes parcio'r Hafod ymhellach i fyny'r ffordd ar y chwith.

Cyfeiriad y parc

Ffordd yr Hafod (ger Ffordd Bangor)
Johnstown
Wrecsam

Oriau agor

Mae'r parc ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Cyfleusterau

  • Maes parcio
  • Grwpiau ysgol
  • Sgyrsiau/teithiau cerdded tywysedig
  • Llwybrau ag arwyneb

Cysylltwch â

d/o Parc Gwledig Ty Mawr
Lôn Cae Gwilym
Cefn Mawr
Wrecsam
LL14 3PE

Ffôn: 01978 822780
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk

 
English
 

Gwybodaeth i Dwristiaid

Parciau Gwledig
Strategaeth Cefn Gwlad
Newyddion
Gwasanaeth Cefn Gwlad
Parc Gwledig Melin y Nant
Parc Gwledig Mwynglawdd Minera
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Parc Gwledig Ty Mawr
Parc Gwledig Stryt Las
Llwybr Dyffryn Clywedog
Parciau Gwledig & Digwyddiadau
Teithiau Cerdded Iachus
Gwasanaethau Parciau
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint