Canolfan Hamdden Y Waun : Partïon Pen-Blwydd

Sesiwn hwyliog (sy’n cynnwys dewis o arnofion, rafftiau ac offer pwmpiadwy bychan)

  • Mae’r gweithgaredd hwn yn addas i unrhyw oedran
  • Mae’n rhaid i nofwyr gwan/pawb na allant nofio wisgo rhwymynnau breichiau ac aros ym mannau penodol y pwll
  • Ar ôl y sesiwn hwyliog yn y pwll mae ystafell barti ynghyd â chadeiriau a byrddau ar gael i’w llogi. Mae’n rhaid i bartïon ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain
  • Caiff y sesiwn ei goruchwylio gan ddau Achubwr Bywyd, a fydd yn rhoi sgwrs ynghylch diogelwch cyn i bawb fynd i’r pwll.

Cost

  • £55.00 - Sesiwn Hwyliog am 1 awr
  • £65.00 – Sesiwn Hwyliog am 1 awr a’r Ystafell Barti am 1 awr*

*gall y parti bara am 2 awr ar y mwyaf, ac mae hynny’n cynnwys amser newid

Rhedfa Sglefrio (offer Pwmpiadwy yn y Pwll)

  • Dyfais wedi ei llenwi ag aer, ugain metr o hyd, gyda nifer o rwystrau a sglefrau ar ei hyd.  
  • Addas i bob oed hyd at 16, yn cynnwys nofwyr gwan/rhai sy’ ddim yn medru nofio, a fydd yn gorfod gwisgo rhwymynnau breichiau.
  • Mae’n rhaid i nofwyr gwan/rhai sy’ ddim yn medru nofio ddod allan o’r sglefren sbonc a bri ar ôl y bin sbwriel cyn mynd i mewn i’r adran nofio gyfyngedig (dŵr dwfn).
  • Rydym yn argymell bod o leiaf un oedolyn yn dŵr i helpu’r plant i fynd ar y sglefren sbonc a sbri. 
  • Mae adran ystafell barti yn cynnwys byrddau a chadeiriau ar gael i’w bwcio ar gyfer ar ôl y sesiwn hwyl yn y pwll.  Mae’n rhaid i bartïon ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain.  

Cost

  • £90.00 - Sesiwn â’r Offer Pwmpiadwy yn y Pwll am 1 awr
  • £100.00 - Sesiwn â’r Offer Pwmpiadwy yn y Pwll am 1 awr a’r Ystafell Barti am 1 awr*

*gall y parti bara am 2 awr ar y mwyaf, ac mae hynny’n cynnwys amser newid

Y Telerau a’r Amodau Cyffredinol ar gyfer Partïon Dewis 1 a 2

  • Pan mae’r parti’n cael ei archebu, rhaid talu blaendal o £20,00
  • Mae trefnydd y parti’n gorfod llenwi ffurflen archebu parti
  • Mae rheolwyr y ganolfan yn gorfod rhoi eu caniatâd ysgrifenedig er mwyn i luniau o unrhyw fath gael eu recordio
  • Rydym yn cynghori pawb sy’n trefnu parti i gael manylion cysylltu’r holl blant sy’n dod i’r parti rhag ofn y bydd unrhyw argyfwng
  • Ar ôl y sesiwn hwyliog yn y pwll mae ystafell barti ynghyd â chadeiriau a byrddau ar gael i’w llogi. Mae’n rhaid i bartïon ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain
  • Y nifer uchaf ar gyfer pob parti yw 30 nofiwr, sy’n cynnwys yr oedolion
  • Ar ddydd Sadwrn y mae’r partïon ar gael - 3.30 - 5.30pm
  • Bydd o leiaf dau achubwr bywyd ar gael
  • Mae’r holl nofwyr yn gorfod gwrando ar a chadw at y rheolau iechyd a diogelwch y bydd yr achubwr bywyd yn eu rhoi.  Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar yr achubwyr bywyd sicrhau bod y lle’n ddiogel ac os bydd unrhyw berson yn peidio â chadw at reolau’r pwll yna bydd gofyn iddynt adael y pwll.

Canllawiau Cymhareb Nofio ar gyfer Partïon - Dewis 1 a 2

Mae unrhyw nofwyr o dan 8 oed yn gorfod bod yng ngofal oedolyn, yn unol â’n polisi mynediad ni ac argymhellion yr ISRM fel a ganlyn:

  • Mae plant 4 oed ac iau yn gorfod bod yng ngofal person cyfrifol (16+ oed), ar sail un i un

  • Mae plant rhwng 5 a 7 oed yn gorfod bod yng ngofal person cyfrifol (16+ oed) ar sail dau i un ar y mwyaf.

Canolfan Hamdden Y Waun : Partïon Pen-Blwydd

Mae'r llyfryn hwn ar gael i ddadlwytho yn y fformat canlynol:

Canolfan Hamdden Y Waun : Partïon Pen-Blwydd - fersiwn PDF 192Kb

Canolfan Hamdden Y Waun : Partïon Pen-Blwydd ffurflen archebu

Y ffurflen archebu ar gael i ddadlwytho yn y fformat canlynol:

Canolfan Hamdden Y Waun : Partïon Pen-Blwydd ffurflen archebu - fersiwn PDF 58Kb

yn ôl i'r brig