Clybiau

Clwb Nofior Waun ar Cylch

Clwb bach ond cyfeillgar a ffyniannus, ar agor i nofwyr newydd ar gyfer profion ar nosweithiau Mercher 8-9pm. Gellir cytuno ar sesiynau eraill trwy drafodaeth ar ymyl y pwll gydar prif hyfforddwr. Rydym fel clwb yn croesawu gymaint o aelodau newydd ag syn bosibl.

Ar hyn o bryd mae sesiynau hyfforddi ar:
nos Fawrth7-9pm
nos Fercher 8-9:30pm
nos Iau 7:30-9pm
dydd Sul 3-5:45pm

Maer clwb hefyd yn cynnal rhaglen Draig Dwr i annog plant iau i ddatblygu stamina wrth baratoi ar gyfer mynd ir prif glwb nofio. Bydd yr athrawon nofio syn goruchwylior rhaglen hon ar nosweithiau Mawrth 7-8pm yn asesu nofwyr unigol yn eu gallu, er ein bod fel arfer yn edrych ar blant sydd wedi cael gwersi nofio ac sydd bellach ar Lefel 8 o fewn y fframwaith addysgu, ond gan fod y lefelau hyn wedi cael eu diwygio erbyn hyn i gamau o fewn y gwersi nofio diweddaraf ac felly Cam 7.

Neilltuir rhai neu ran o sesiynau nofior prif glwb i nofwyr penodol yn dibynnu ar alluoedd. Rydym bob amser yn edrych tuag at gynyddu ein sesiynau hyfforddi felly efallai y newidir yr amseroedd a restrir uchod.

Ein prif hyfforddwr yw Steve Parker, sydd blynyddoedd o brofiad fel nofiwr a hyfforddwr yn Wellington. Mae gennym hefyd hyfforddwyr wrth gefn fyddai efallain cynorthwyo neun cymryd lle Steve fel y bor angen.

Rydym yn ymgeisio mewn galu nofio mewn cynghrair lleol gyda phwyslais arbennig ar ymdrechu fel tm. Rydym hefyd yn annog pob nofiwr i ddilyn llwybr cystadleuol unigol ar gyfer eu datblygiad eu hunain. Fel y bydd nofwyr yn gwella rydym yn eu hannog yn y pen draw i nofio ar Lefel Genedlaethol.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynghylch y clwb mae croeso i chi gysylltu ni. Bydd ein hysgrifenyddes - Maggie Durrant yn falch i dderbyn galwadau ffn ar 01691 774169, neu efallai y byddwch am gysylltu n gwefan - www.chirkdragons.co.uk

WSKA - Cymdeithas Karate Shotokan Cymru

Prif Hyfforddwr: G. OPERANTA (7th Dan)

Mae clwb karate’r Waun yn agored i aelodau newydd o bob oed a gallu ac mae croeso i chi ddysgu’r grefft ymladd Siapaneaidd hon mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel.

Yr hyfforddwr yw Ian Davies (5th Dan) sydd wedi cystadlu ar lefel uwch a chynrychioli Cymru. Mae hefyd wedi hyfforddi myfyrwyr sydd wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau ym Mhrydain ac yn Ewrop, ac wedi ennill dwsinau o wobrau i’r DU a Chymru o ganlyniad.

Cafodd Ian wobr Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn yn Sir Ddinbych yn 1999 mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad aruthrol i ragoriaeth chwaraeon lleol.

Lleolir y clwb yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun ac amseroedd y sesiynau yw:

Dydd Llun 7-9pm
Dydd Mercher 7:30-9pm

yn ôl i'r brig