Cydweithfa Fwyd Y Waun

Cydweithfa Fwyd Y Waun 10.30am - 11.30am.

Dim ond £3 y bag!

Beth yw cydweithfa fwyd a sut mae’n gweithio?

Mae cydweithfa fwyd yn cysylltu grŵp o wirfoddolwyr â chyflenwr lleol sy’n darparu ffrwythau, llysiau a bwydydd salad ffres, fforddiadwy, i’w gwsmeriaid am bris cyfanwerthu. Mae cydweithfa fwyd yn rhoi mwy o ffrwythau a llysiau ichi am eich arian na siopa mewn archfarchnad – gallech arbed hyd at £200 y flwyddyn!

I gael rhagor o wybodaeth siaradwch â staf yng Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Waun, ffoniwch 01691 778666 neu beth am wylio’r fideo ‘Bags of Goodness’ ar wefan www.ruralregeneration.org.uk.

Beth ddylwn i ei wneud yn awr?

Dim ond troi i fyny, archebu a thalu, yna casglu’ch eitemau yr wythnos nesaf. Neu, os ydych yn brin o amser, llenwch y slip archebu cyflym isod a’i roi, ynghyd â’ch taliad, i un o wirfoddolwyr y gydweithfa fwyd.

Beth os anghofiaf ddod i nôl fy neges

Byddwn yn eich ffonio os ydych wedi anghofio dod i nôl eich eitemau ond cofiwch y bydd bagiau nad ydynt wedi cael eu casglu erbyn 5pm ddydd Gwener yn cael eu rhoi i’r lloches i bobl ddigartref fel na fyddant yn mynd yn ofer.

Ffon Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Waun: 01691 778666.

yn ôl i'r brig