Mae Clybiau Gwyliau Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun yn sicrhau bod eich plentyn yn mwynhau gwyliau ysgol hwyliog a llawn bywyd.
Mae gan y staff gymwysterau da a phrofiad helaeth a byddant yn cynnig amgylchedd hwyliog a chyfeillgar lle fydd pob plentyn ac unigolyn ifanc yn cael croeso ac yn teimlo’n gyfforddus
Mae’r chwaraeon sydd ar gael yn cynnwys: Athletau, tennis, rownderi, criced a phêl-droed. Ceir rhai gweithgareddau llawn hwyl hefyd megis, nofio, rasys dŵr hwyliog, celf a chrefft a gemau tîm. Rydym hefyd yn trefnu gwibdaith i’r plant gael hyd yn oed mwy o hwyl!
Anogir y plant a’r bobl ifanc i gymryd rhan a datblygu’r sgiliau sydd ganddynt eisoes a sgiliau newydd.
Mae’r clwb yn agored i blant sydd rhwng 8 ac 14 oed a’r gost yw £12.50 y dydd. Bydd gostyngiad ar gael am neilltuo wythnos gyfan.
Rydym yn cynnal clybiau yn ystod gwyliau’r Pasg a gwyliau’r haf ac weithiau bydd clybiau yn ystod gwyliau eraill, yn dibynnu faint o staff sydd ar gael.
Ni ddarperir cinio, felly cofiwch ddod â phecyn cinio. Mae gan y ganolfan hamdden nifer o beiriannau sy’n gwerthu amrywiaeth o ddiodydd poeth/oer, siocled, creision a fferins.
Am ragor o wybodaeth ac i neilltuo lle, cysylltwch â Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun ar 01691 778666
Mae pob un o’r hyfforddwyr yn gymwys ac wedi eu gwirio gan yr heddlu trwy’r Swyddfa Cofnodion Troseddol.