Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Waun

Croeso i Ganolfan Hamdden Y Waun. Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau yn barod amdanoch – o bwll nofio 25 metr o hyd, ystafell ffitrwydd ac iechyd, cae pob tywydd ar gyfer pl-droed, hoci neu tennis a neuadd chwaraeon ar gyfer cynnal dosbarthiadau ffitrwydd. Pa ffordd well o dreulioch diwrnod?

Pwll Ar Gau

Bydd y pwll yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun ar gau o ddydd llun 28 Tachwedd ymlaen oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol i awyriad y boeler.

Ni effeithir ar y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd ac ystafelloedd iechyd, cae pob tywydd a’r neuadd chwaraeon oherwydd hyn.

Ymddiheura Cyngor Wrecsam am unrhyw anghyfleustra gall hyn ei achosi ac edrychwn ymlaen at groesawu cwsmeriaid newydd a’r cwsmeriaid presennol  yn y Flwyddyn Newydd.

I ddod o hyd i’ch pwll nofio agosaf ffoniwch y Tîm Hamdden ar 01978 297423.


Mae Zumba yn symud o ddydd Mercher i ddydd Iau, ffoniwch am fwy o fanylion.


Cyfleusterau

  • Pwll nofio 25m
  • Ystafell Ffitrwydd sy’n cynnwys peiriannau cardiofasgwlaidd a gwrthiant a lle phwysau
  • Sawna ac ystafell stêm
  • Maes pob tywydd
  • Neuadd chwaraeon
  • Man eistedd i ymlacio wedi’ch gwaith caled
  • Parcio am ddim

yn ôl i'r brig