Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Canolfan Hamdden Y Waun : Gwersi Nofio

 

Trosolwg o Gynllun Cenedlaethol yr ASA ar gyfer Dysgu Nofio (CDNC) 10 Cam Yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun

Rydym yn cynnig ystod eang o wersi nofio i blant ac oedolion drwy Gynllun Newydd Dysgu Nofio'r Gymdeithas Nofio Amatur (ASA) sy’n disodli’r hen raglen.

Maes llafur cenedlaethol yw hwn ar gyfer cyflwyno gweithgareddau dŵr ac mae’n darparu camau fel y gall eich plentyn ddangos cynnydd a dod yn fedrus, hyderus a diogel mewn dŵr.

Cyflwynir y gwersi i gyd gan dîm profiadol o athrawon sydd wedi cymhwyso drwy’r ASA.
Cynhelir gwersi bob dydd Mawrth, Mercher, Iau a Sadwrn.

Mae hyd pob set o wersi’n amrywio yn unol â thymhorau ysgol lleol.

Hefyd gallwch fanteisio ar y cyrsiau dwys a gynhelir yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mae taith y nofwyr drwy weithgareddau dŵr yn dechrau o 4 blwydd oed yma yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun drwy Sgiliau Symudiad Sylfaenol, Camau 1 – 7 o’r CDNC.

Yn dilyn mae trosolwg o gamau 1 – 7:

Cam 1 – 13 nod i’w cyflawni

  1. Mynd i’r dŵr yn ddiogel
  2. Symud ymlaen am bellter o 5 metr
  3. Symud yn ôl am bellter o 5 metr
  4. Symud i’r ochr am bellter o 5 metr
  5. Sbydu dŵr ac ymolchi’r wyneb
  6. Yn hapus o dan ddŵr yn disgyn o gawod uwchben
  7. Ymestyn y corff ac arnofio yn y dŵr gan ddefnyddio cymorthyddion
  8. Ailsefyll gyda chymorth ar ôl bod yn arnofio ar y cefn
  9. Ailsefyll gyda chymorth ar ôl bod yn arnofio ar y blaen
  10.  Gwthio a gleidio mewn safle llorweddol at neu oddi wrth y wal
  11.  Cymryd rhan mewn gêm gyda phartner dan arweiniad yr athro
  12.  Dangos dealltwriaeth o reolau’r pwll
  13.  Dod allan o’r dŵr yn ddiogel

Cam 2 – 10 nod i’w cyflawni

  1. Neidio i mewn yn ddiogel o ochr y pwll
  2. Chwythu swigod yn rhythmig gyda’r trwyn a’r geg o dan y dŵr
  3. Ailsefyll gyda chymorth ar ôl bod yn arnofio ar y cefn
  4. Ailsefyll gyda chymorth ar ôl bod yn arnofio ar y blaen
  5. Gwthio a gleidio ar y cefn oddi wrth y wal
  6. Gwthio a gleidio ar y blaen oddi wrth y wal
  7. Teithio ar y cefn am 5 metr, gellir defnyddio cymhorthion
  8. Teithio ar y blaen am 5 metr, gellir defnyddio cymhorthion
  9. Cylchdroi o’r blaen i’r cefn mewn safle unionsyth
  10. Cylchdroi o’r cefn i’r blaen mewn safle unionsyth

Cam 3 – 9 nod i’w cyflawni

  1. Neidio i mewn o ochr y pwll a mynd dan y dŵr
  2. Suddo, gwthio oddi wrth y wal ar eich ochr a chynnal siâp llifliniog
  3. Gwthio a gleidio ar y blaen gyda’r breichiau wedi’u hymestyn a rowlio drosodd ar y cefn
  4. Gwthio a gleidio ar y cefn gyda’r breichiau wedi’u hymestyn a rowlio drosodd ar y blaen
  5. Teithio ar y blaen, twcio i gylchdroi o amgylch yr echelin lorweddol i ddod yn  ôl ar y cefn
  6. Mynd o dan y dŵr yn gyfangwbl a chodi gwrthrych
  7. Ateb cwestiwn ar y Cod Diogelwch Dŵr
  8. Teithio 10 metr ar y cefn
  9. Teithio 10 metr ar y blaen

Cam 4 - 13 nod i’w cyflawni

  1. Dangos dealltwriaeth o hynofedd
  2. Arnofio wedi twcio am 5 eiliad
  3. Perfformio cyfres o newid siapiau wrth arnofio ar yr wyneb
  4. Gwthio a gleidio o’r wal hyd at lawr y pwll
  5. Cicio 10 metr nofio ar y cefn (1 eitem o offer yn ddewisol)
  6. Cicio 10 metr nofio yn eich blaen (1 eitem o offer yn ddewisol)
  7. Cicio 10 metr strôc pili pala ar eich blaen neu ar eich cefn (1 eitem o offer yn ddewisol)
  8. Cicio 10 metr nofio broga ar eich cefn (1 eitem o offer yn ddewisol)
  9. Cicio 10 metr nofio broga ar eich blaen (1 eitem o offer yn ddewisol)
  10. Perfformio symudiad sgwlio ar y cefn pen yn gyntaf am 5 metr mewn safle llorweddol
  11. Teithio ar y cefn a rowlio drosodd ar y blaen mewn un symudiad parhaus
  12. Teithio ar y blaen a rowlio drosodd ar y cefn mewn un symudiad parhaus
  13. Nofio 10 metr, strôc ddewisol (gan fodloni safon strôc ASA )

Cam 5 – 12 nod i’w cyflawni

  1. Sgwlio’n llorweddol ar y cefn yn y fan a’r lle
  2. Sgwlio 5 metr, traed yn gyntaf ac yn llorweddol ar y cefn
  3. Dilyniant sgwlio gyda phartner am 30-45 eiliad sy’n cynnwys cylchdroi
  4. Troedio’r dŵr am 30 eiliad
  5. Perfformio 3 naid â siâp gwahanol i’r dŵr dwfn
  6. Nofio ar eich cefn am 10 metr
  7. Nofio yn eich blaen am 10 metr gyda’ch wyneb yn y dŵr
  8. Nofio broga am 10 metr
  9. Nofio pili pala am 10 metr
  10. Llawsefyll am 3 eiliad o leiaf
  11. Trosbennu ymlaen, yn eich cwrcwd, yn y dŵr
  12. Arddangos gweithred i gael cymorth

Cam 6 – 11 nod i’w cyflawni

  1. Dangos dealltwriaeth o baratoi i ymarfer
  2. Suddo, gwthio o’r wal ar eich ochr, gleidio, cicio a chylchdroi i nofio ar y cefn
  3. Suddo, gwthio o’r wal, gleidio, cicio a chylchdroi i nofio yn eich blaen
  4. Nofio 10 metr yn eich dillad
  5. Nofio yn eich blaen gan gynnwys anadlu rhythmig
  6. Nofio broga gan gynnwys anadlu rhythmig
  7. Nofio pili pala gan gynnwys anadlu rhythmig
  8. Nofio 25 metr, strôc ddewisol, ond i safon ddisgwyliedig ASA
  9. Perfformio trefniant achub ‘gweiddi ac arwyddol’
  10. Perfformio plymiad o wyneb y dŵr
  11. Dod o’r dŵr heb ddefnyddio grisiau

(Gall yr anadlu rhythmig wrth nofio yn eich blaen fod yn ddwyochrog neu unochrog, wrth nofio broga rhaid anadlu allan wrth symud y breichiau ymlaen / gan anadlu i mewn wrth i’r breichiau dynnu, anogir nofwyr pili pala i anadlu bob dwy strôc)

Cam 7 – 10 nod i’w cyflawni

  1. Nofio 50 metr ar eich cefn
  2. Nofio 50 metr ar eich blaen
  3. Nofio 50 metr broga
  4. Nofio 50 metr pili pala
  5. Perfformio dilyniant o symudiadau yn para 1 munud, mewn grŵp o 3 neu fwy, gan ymgorffori nifer o’r sgiliau canlynol:
    • Sgwlio – pen yn gyntaf a thraed yn gyntaf
    • Cylchdroi - trosbennu ymlaen / yn ôl, rowlio fel boncyff
    • Arnofio – seren ar y blaen / ar y cefn, arnofio ynn eich cwrcwd
    • Eggbeater – symud, codi un fraich neu’r ddwy o’r dŵr, cyslltu’r sgiliau gyda strociau a sgwlio
  6. Plymio o eistedd ar yr ochr
  7. Nofio 50 metr heb aros gan ddefnyddio un strôc
  8. Nofio 200 metr, gan ddefnyddio lleiafswm o 3 strôc wahanol
  9. Troedio dŵr gan ddefnyddio dull egg beater am 30 eiliad
  10. Cwblhau cwrs rhwystrau heb i’r traed gyffwrdd â’r gwaelod o gwbl

Unwaith y bydd nofiwr wedi datblygu'r ystod graidd o sgiliau sydd eu hangen o’r Sgiliau Symudedd Sylfaenol bydd yn cael cynnig y cyfle i gymryd rhan yn y Sgiliau Chwaraeon Sylfaenol, Camau 8 - 10 yn yr holl ddisgyblaethau chwaraeon ac maent ar gael mewn nofio cystadleuol, plymio, nofio cydamserol, polo dŵr a sgiliau achub bywydau. 

Mae Camau 8, 9 a 10 o’r CDNC yn benodol ar gyfer disgyblaethau ac mae ganddynt synergedd â rhaglenni a ddatblygir gan y disgyblaethau i gefnogi eu chwaraeon unigol.

Mae’r rhain fel a ganlyn:

Mae camau 8, 9 a 10 o Nofio Cystadleuol wedi datblygu gwobrau yn benodol i gefnogi’r CDNC.

  • Flip n Fun = Plymio
  • Aqua Fun = Nofio cydamserol
  • Mini-Polo = Polo Dŵr
  • Sgil Achub Bywydau = Rookies

Mae cyfle i ymuno â ‘Dreigiau Clwb Nofio’r Waun’, fel dewis arall, ar gael drwy’r Rhaglen Dreigiau Dŵr sydd ar gael i blant sy’n cwblhau Cam 7 neu drwy sesiynau blasu’r Clwb.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint