Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog

Lleolir Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog mewn man cyfleus ger ffordd osgoi Wrecsam, yr A483, ar Ffordd Rhuthun tuag at ganol y dref.

Ailwampiwyd y ganolfan yn ddiweddar i’n caniatáu i gynnig ystod gyfan o weithgareddau i oedolion a phlant.

Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 5pm tan 9pm.

Yn ystod y gwyliau, mae’r ganolfan ar agor yn ystod y dydd. Cysylltwch â’r ganolfan gan fod yr amserau’n amrywio.

Cyfleusterau

Pwll nofio

Pwll nofio 20m wrth 8.5m

Bob dydd Llun mae’r rhaglen Yst8 i 16 yn cynnig sesiynau nofio rhwng 5.00-6.00pm

Mae clwb Nofio Wrecsam yn hyfforddi rhwng 5.00-9.00pm bob nos.

Ar yr ail a’r pedwerydd dydd Mawrth o bob mis cynhelir Hyfforddiant Cenedlaethol Achub Bywyd Pwll Sesiynau 8.00-10.00pm. Mae’r sesiynau hyn ar gyfer dalwyr NPLQ na chyflogir i gadw eu safon cymhwyso a’u cost yw £5.

Sylwer nad yw’r pwll ar agor ar gyfer sesiynau nofio cyhoeddus.

Neuadd chwaraeon

Ar gael i’w logi ar gyfer Badminton, 5 bob ochr, Pêl rwyd, Pêl fasged, Tennis bwrdd.

Bob nos Fawrth rhwng 7.00-8.00pm Clwb Pêl-rwyd Harlequins.

Bob nos Fercher Clwb Tennis Bwrdd Wrecsam o 5.00-7.00pm Ieuenctid, a 7.00-10.00pm Oedolion.

Bob nos Wener Clwb Cleddyfaeth Wrecsam Ieuenctid 6.15–8.00pm ac Oedolion 8.00–9.15pm.

Campfa

Bob nos Lun a nos Fercher 7 – 8.30pm Clwb Carate

Sylwer na chynhelir rhai clybiau chwaraeon dros wyliau hanner tymor.  Gwnewch ymholiadau â phob clwb.

Ystafell Ffitrwydd Pur

Mae’r ystafell ffitrwydd wedi ei hadnewyddu’n ddiweddar i gynnwys dros 25 o offer cardio fasgwlar ac ymwrthedd o’r safon uchaf gan Technogym.

Mae’r gampfa ffitrwydd Pur ar agor i aelodau ymrwymedig neu achlysurol Pur. Gweler y wybodaeth am aelodaeth am ragor o fanylion.

yn ôl i'r brig