|
Mae Llwybr Dyffryn Clywedog yn mynd o Byllau Plwm y Mwynglawdd
at Felin y Brenin. Mae’n hawdd dilyn y llwybr sydd wedi ei arwyddo
ar hyd yr afon i’ch cynorthwyo i fwynhau prydferthwch naturiol y dyffryn
heddychol hwn a dadorchuddio ei hanes cyfoethog.
Lawrlwytho’r daith gerdded hon
Gweld yr oriel ar gyfer y daith gerdded hon | Anfon lluniau o'r daith gerdded hon atom | Anfon e-bost atom am y daith gerdded hon
Afon Clywedog fu bywyd y dyffryn erioed, yn dyfrio cnydau a da byw ers
y cyfnodau cynnar, yn gweithio melinau yd ac yn gyrru peiriannau
diwydiannol.
Yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif cynnar yr afon oedd gwir bwer yr
ardal, yn gweithio 17 melin ar ei hyd – melinau llenwi i baratoi brethyn,
melinau ar gyfer malu yd a bragu, a melinau papur. Roedd olwynion dwr anferth yn gweithio’r fegin i chwythu aer i’r ffwrnais yn y Bers, ac yn gyrru’r
peiriannau pwmpio a chludo yn y pyllau plwm.
Tyfodd y boblogaeth yn ddramatig wrth i’r chwyldro diwydiannol ddenu
gweithwyr i ardal Wrecsam, i’r pyllau glo a ddatblygodd a’r gweithfeydd
dur, y chwareli carreg galch a’r gweithfeydd toddi plwm. Roedd galw diddiwedd
am fwyd i fwydo’r gweithlu a oedd yn cynyddu. Roedd
gorlifdiroedd ffrwythlon Clywedog wedi darparu porfa gyfoethog ac yd
erioed, ond roedd yn rhaid adeiladu melinau yd newydd a chlirio ardaloedd
o goetiroedd i dyfu cnydau er mwyn ateb y galw cynyddol.
Pan gymerodd stêm drosodd yn hwyr yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif nid
oedd angen lleoli’r diwydiannau newydd yn agos at yr afon mwyach. Yn
raddol daeth diwydiannau a melinau blawd Clywedog i ben yn sgil
technoleg newydd a mewnforion rhad o dramor.
Y dyddiau hyn mae Clywedog wedi dychwelyd at natur, ond mae’n parhau i
chwarae rhan bwysig ym mywyd y dyffryn fel man ar gyfer bywyd gwyllt
ac ymlacio. Mae nifer o’r hen adeiladau a’r tir gerllaw yn amgueddfeydd, yn
ganolfannau ymwelwyr ac yn barciau gwledig ger yr afon – Pyllau Plwm y
Mwynglawdd, Canolfan Ymwelwyr ac ardal bicnic Melin y Nant, Canolfan
Dreftadaeth y Bers, a Pharc Gwledig Erddig.
Mae’r llwybr yn addas i blant bach. Bydd rhaid i’r rheiny sy’n gwthio coetsis babanod fod yn heini a gallu ymdopi â rhywfaint o fwd a rhyw 10 o gamfeydd. Fodd bynnag, ceir darnau hir heb gamfeydd – ffoniwch Felin y Nant ar 01978 752772 am fwy o wybodaeth.
Gallai’r rheiny sy’n defnyddio cadair olwyn ac sydd â chynorthwy-ydd cryf roi cynnig ar y rhan rhwng Melin y Nant a’r Bers hyd at Glawdd Offa neu ymhellach hyd yn oed - Gweler taith gerdded 5 yn y llyfryn am fynediad pobl anabl i gefn gwlad.
BYSIAU:
Mae digonedd o fysiau’n gwasanaethu ardaloedd Y Mwynglawdd, Coedpoeth a Melin y Brenin. Ffoniwch: Ymholiadau Teithio ar 01978 266166
Taflen Llwybr Dyffryn Clywedog
Mae taflen ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Taflen Llwybr Dyffryn Clywedog - Fersiwn PDF 689Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Oriel
Tynnwyd y lluniau hyn wrth gerdded ar hyd y llwybr hwn. I weld fersiwn fwy, cliciwch ar y llun neu'r testun.
Anfonwch eich lluniau atom!
Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon. Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun. Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon. Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Gweler yr ymwadiad. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.
|