|
Mae
treftadaeth archaeolegol Cyngor Bwrdeistref Wrecsam yn un gyfoethog gyda
henebion yn dyddio mor bell yn ôl â'r cyfnod Mesolithig (12,000 mlynedd
yn ôl). Trwy gydol y cyfnod cynhanesyddol hir hwn mae dynion wedi gadael
eu marc ar y tirlun, naill ai tra'n byw - bryngaerau'r oes haearn - neu
trwy farwolaeth - beddrodau'r oes efydd.
Bu'r Rhufeiniaid y ffordd hon hefyd, gan orchfygu'r llwyth Deceangli
lleol yng nghanol y ganrif gyntaf OC ac yna'n sefydlu cymunedau amaethu
fel yr un a ganfuwyd yn ddiweddar ym Mhlas Coch, Wrecsam neu'n gwneud
teils a chrochenwaith yn Holt ar gyfer yr 20fed Lleng a leolwyd yng Nghaer.
Yn y cyfnod hanesyddol, roedd y rhan hon o Gymru'n ffurfio rhan o'r ffindiroedd
gyda Lloegr ac mae amgylchiadau ei pherchnogaeth ansicr wedi llunio cymeriad
yr archaeoleg a welwn heddiw. Mae Clawdd Offa a Chlawdd Wat yn croesi'r
ardal, adeiladwyd hwy gan y Mersiaid yn yr 8fed ganrif i gadw'r Cymry
yng Nghymru. Ychydig yn ddiweddarach, mae'r Maelor wedi ei britho gan
adfeilion safleoedd ffosedig, tai bychain caerog, roedd eu ffosydd llawn
dwr yn ddefnyddiol ar gyfer cadw pysgod i'w bwyta. Ac wrth gwrs, gan mai
Cymru yw hon, mae gennym gastell neu ddau, yn enwedig yn Holt ac yn Y
Waun.
Chwaraeodd ardal Wrecsam ran allweddol yn natblygiad y Chwildro Diwydiannol,
gyda John 'Iron Mad' Wilkinson a'i Waith Haearn yn y Bers yn arwain y
ffordd. Yma cafodd y silindrau ar gyfer injan stêm newydd James Watt eu
hadeiladu yn ogystal â nifer o'r canonau a ddefnyddiwyd yn y rhyfeloedd
Napoleonaidd. Mae'r henebion eraill sydd o bwys yn cynnwys gweithfeydd
plwm y Mwynglawdd, Ty Injan Penrhos a thraffont ddwr ardderchog Pontcysyllte.
ebost: archaeology@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig
|