|
Cynhaliwyd cyfrifiad bob 10 mlynedd o 1801, ond
ni chafodd enwau eu cynnwys tan 1841.
Roedd cyfrifiad 1841 yn llai manwl na'r blynyddoedd dilynol. Mae'r manylion
canlynol am bawb yn y ty wedi eu cynnwys ynddynt: enwau, oed, gwaith,
a gawsant eu geni yn yr un wlad. Cofnodir oedran y rhai dan oedran i'r
lluosrif agosaf o 5, rhoddir union oedran y plant o dan 15.
Ar ôl 1841 cofnodir perthynas yr unigolion i'r penteulu, eu hunion oedran,
eu plwyf a'i sir enedigol, gwybodaeth feddygol amdanynt e.e. cofnodir
os oeddent yn ddall, byddar ayb. Cofnodwyd manylion y cyfrifiadau cynnar
mewn un noswaith ac roedd hyn yn creu poblem, yn enwedig yn yr ardaloedd
arforol, oherwydd os nad oedd y teulu adref ni chofnodwyd y manylion.
Yn ogystal â hyn, roedd problem llythrennedd yn effeithio ar y cyfrifiadau
cynharaf ac o ganlyniad gwnaed camgymeriadau'n aml.
Nid yw'r cyhoedd yn cael gweld y ffurflenni cyfrifiad am 100 mlynedd.
Maent yn ffynhonnell ffrwythlon o wybodaeth i haneswyr teuluol, neu i'r
rhai hynny sy'n astudio hanes cymdeithasol.
Mae'r ffurflenni cyfrifiad canlynol ym meddiant Gwasanaeth Archifau
Wrecsam:-
-
1891- ar gyfer Sir Clwyd gynt (microfiche)
-
1851-1881 - Tref Wrecsam a manylion anghyflawn am yr ardaloedd amgylchynol
(microffilmiau)
-
1881 mynegai cyfrifiad ( e.e. mynegai strydoedd) ar gyfer Cymru,
Sir Gaer, Sir Gaerhirfryn a Sir Amwythig (microfiche)
Ar hyn o bryd lleolir y rhain yn y Gwasanaeth Astudiaethau Lleol, Llyfrgell
Wrecsam.
^ yn ôl i'r brig
|