|
Ffurfiwyd y Gwasanaeth Astudiaethau Lleol ym mis
Ebrill 1996 yn yr aildrefnu a fu ar lywodraeth leol. Fe'i lluniwyd o'r
casgliad a oedd eisoes yn Llyfrgell Wrecsam a'r Ganolfan Gelf ac ychwanegwyd
deunyddiau o Gasgliad Astudiaethau Lleol Clwyd yng Nghanolfan Llyfrgell
Clwyd, Yr Wyddgrug, ato. Mae casgliadau arwyddocaol llai mewn llyfrgelloedd
cangen yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r casgliad yn cynnwys deunydd argraffedig
sy'n berthnasol i Fwrdeistref Sirol Wrecsam a hefyd weithiau cyffredinol
am Gymru, Sir Gaer a Sir Amwythig os ydynt yn berthnasol i'r astudiaeth
o'r ardal. Cesglir deunyddiau ar bersonoliaethau lleol a chasgliad cynrychiadol
o weithiau gan awduron lleol hefyd. Ceir casgliad arbennig o lyfrau a
argraffwyd ac a gyhoeddwyd yn yr ardal, cyhoeddwyd y cyntaf o'r rhain
gan Richard Marsh ym 1772.
ebost: localstudies@wrexham.gov.uk
|