Nos Lun a nos Iau 7:30pm – 10:00pm
Ar gyfer chwaraewyr mwy medrus. Mae Clwb Badminton Rossett yn glwb sy’n rhan o’r gynghrair leol ac yn gofyn i unrhyw ddarpar chwaraewyr fod o safon sy’n addas i chwarae yn y gynghrair honno. Gyda sesiynau hyfforddi wythnosol a chalendr sy’n llawn digwyddiadau, mae’r clwb hwn yn bendant yn un prysur. Maent bob amser yn chwilio am chwaraewyr newydd ac mae croeso i chwaraewyr o bob oedran.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Dave (01352) 756666 neu Sue (01978) 354516
![]()
Dydd Sadwrn 11am – 1pm
Nid oes raid i chi fod mewn cadair olwyn i chwarae!
Mae pêl-fasged mewn cadair olwyn yn gêm gyflym, gyffrous a gwyllt sy’n cael ei chwarae gan ddynion a merched. Mae'r un fath â’r fersiwn i bobl abl ac yn cael ei chwarae ar yr un cyrtiau â basgedi o’r un uchder. Mae pêl-fasged cadair olwyn yn gêm sy’n tyfu ym Mhrydain, â thros 700 o chwaraewyr, 40 o glybiau a thua 60 o dimau’n cystadlu mewn cynghreiriau amrywiol. A oeddech chi’n gwybod y gall pobl heb anableddau chwarae pêl-fasged mewn cadair olwyn hefyd? Fodd bynnag, rhaid i chwaraewyr fod ag anabledd parhaol i’w coesau i chwarae ar lefel ryngwladol.
Ffurfiwyd clwb pêl-fasged cadeiriau olwyn Celtic Warriors Wheelchair Basketball Club ym mis Ebrill 2002. Daeth y tîm 1af yn bedwerydd yn y 3edd adran y tymor diwethaf, a bu bron iddynt gyrraedd y gemau ailgyfle.
Ar hyn o bryd, mae gan glwb cadeiriau olwyn Chester Jets dîm bychan ac ymroddedig o wirfoddolwyr sy’n ffurfio’r pwyllgor, gan gynnwys y Cadeirydd, Rheolwr, Trysorydd, Ysgrifennydd a chynrychiolwyr y chwaraewyr.
Gydag offer a hyfforddwyr cymwys sydd wedi’u hyswirio, mae tîm cadeiriau olwyn y Jets bob amser yn chwilio am chwaraewyr newydd.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Celtic Warriors Wheelchair Basketball Club ar 07733 238455 / 07711 356541
Ebost: celticwarriorsbasketball@yahoo.co.uk
Neu ewch i: www.celticwarriors.org.uk
![]()
Nos Iau 7:30pm – 8:30pm
Mae clwb paffio Thai Wrecsam yn cynnal dosbarthiadau mewn nifer o leoliadau yn ardal Wrecsam. Mae’r sesiynau’n para rhwng 1 a 2 awr, gan ddibynnu ar y lleoliad a’r amser dechrau. Fel rheol, bydd pob sesiwn yn dechrau â 3 rownd o sgipio/loncian ar eich unfan/cogio paffio a fydd yn para 2 funud yr un, ac yna byddwch yn ymestyn ac yn gwneud ymarferion cynhesu.
Unwaith i ni wneud hyn rydym yn bwrw ymlaen â’r hyfforddiant ei hun. Am sesiwn sy’n para dwy awr, byddwn yn dechrau trwy wneud gwaith â phadiau ac yna’n canolbwyntio ar ymarfer paffio, neu waith techneg. Yn olaf, ar ddiwedd bob sesiwn, byddwn yn gwneud gwaith cynhesu unwaith eto, sy’n bwysig o ran helpu i amddiffyn eich cyhyrau a’ch cymalau rhag i chi eu hanafu ar ôl yr ymarfer corff.
Daeth cic-baffio, neu gic-baffio Americanaidd o’r UDA yn wreiddiol yn y 1970au, o ganlyniad i’r cyfyngiadau a roddwyd ar gystadlaethau crefftau ymladd nad oedd yn caniatáu i gystadleuwyr gyffwrdd ei gilydd yn llawn wrth gicio neu ddyrnu. Yn gyffredinol, mae’r gweithgaredd yn defnyddio ciciadau, dyrnodiau a blociadau cicio, a chaniateir i gystadleuwyr gicio uwchben ac o dan y canol (nid yn y forddwyd).
Mae cic-baffio Muay Thai yn fath o chwaraeon a chrefft ymladd, sy’n tarddu o hyfforddiant brwydro a ddefnyddiwyd 2000 o flynyddoedd yn ôl. Erbyn heddiw, dyma yw’r gêm fwyaf poblogaidd i wylwyr yng Ngwlad Thai. Weithiau, fe’i adnabyddir fel gwyddor yr wyth aelod, gan ei fod yn defnyddio’r dwylo, y penelinoedd, y pen-gliniau a’r traed (crimogau) fel arfau, a dyma yw un o’r crefftau ymladd mwyaf ymosodol, yn bennaf oherwydd y ffordd y defnyddir y technegau. Fodd bynnag, ni ddylid cysylltu’r gair ‘ymosodol’ â thrais, gan i barch, disgyblaeth a hunanreolaeth fod yn elfennau hanfodol bwysig.
Mae croeso i bobl o bob oedran o 6–60 oed
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Ian Stewart (Hyfforddwr) ar (01978) 761147
![]()
Nos Fawrth 7:00pm – 9:00pm
Wedi’i lleoli yng Nghaer a gogledd Cymru, mae Academi Crefftau Ymladd Gagnon (GMAA) yn cynnig yr hyfforddiant crefftau ymladd dwylo gwag ac arfau mwyaf effeithiol sydd ar gael ar hyn o bryd. Anelwn at gynnig yr hyn yr ydym ni’n credu yw’r hyfforddiant crefftau ymladd gorau, ond mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar. Nid oes unrhyw raddfeydd beltiau yn ein hacademi ni, ac yn lle hynny rydym wedi dewis system 4 lefel – dechreuwyr, canolradd cyfnod 1, canolradd cyfnod 2 a’r lefel uwch.
Mae 3 prif faes i’r cwricwlwm, sef, Jeet Kune Do Bruce Lee, Filipino Escrima a Silat Indonesaidd. Mae pob un o’r systemau a ddefnyddiwn yn systemau ymladd sefydledig ac effeithiol.
Rhennir cwricwlwm y GMAA yn daflenni gwaith y caiff y myfyrwyr eu tywys drwyddynt. Mae hyn yn caniatáu i bob myfyriwr weithio drwy’r taflenni ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw. Mae’r cwricwlwm yn cadw ymdeimlad o realiti ar bob lefel. Unwaith i’r myfyrwyr ddysgu’r technegau, cânt eu hyfforddi’n gyson er mwyn cadw a gwella’r technegau hynny, er mwyn iddynt fod yn effeithiol mewn sefyllfa ymosodol.
O’ch gwers gyntaf, byddwch yn dysgu egwyddorion ymosodol sylfaenol sy’n syml, yn uniongyrchol ac yn anghlasurol. Mae economi symudiad, mecaneg y corff, cyflymder, amseriad ac ymosodedd ynghyd â sensitifrwydd yn rhan ganolog o JKD. Mae croeso i bawb o blant i oedolion.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Guru Lee Gagnon (Uwch Hyfforddwr) 07941118414
![]()
Nos Iau 7:00pm – 9:00pm
Lle gwych i’r gymuned ifanc leol ddod at ei gilydd bob wythnos. Gyda rhaglen strwythuredig o weithgareddau a chwaraeon, mae gan y clwb ieuenctid bychan hwn gymeriadau mawr a chyfeillgar sydd bob amser â phethau i’w gwneud, boed yn weithgareddau yn y gymuned leol neu’n deithiau ymhellach oddi gartref. Croesewir aelodau newydd o 13–18 oed.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Chwaraeon Darland ar (01244) 571077