Addysg Amgylcheddol

Mae Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Wrecsam yn cynnig rhaglen addysg amgylcheddol eang ac mae'r parciau gwledig yn cynnig adnoddau addysgiadol ardderchog sy'n galluogi pobl o bob oedran i astudio ystod eang o bynciau, gan gynnwys nifer o feysydd y cwricwlwm.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cynefinoedd
  • Mapio
  • Astudiaethau afonydd (daearyddiaeth)
  • Rhwydo afonydd/pyllau dŵr
  • Taith gerdded trwy'r fferm (Ty Mawr yn unig)
  • Chwilota am fwystfilod bach
  • Teithiau cerdded tymhorol
  • Celf yn yr amgylchfyd
  • Creigiau a ffosiliau (Y Mwynglawdd yn unig)
  • Iaith a llythrennedd

Mae'r holl raglenni hyn yn gysylltiedig â'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn cynnig profiadau ymarferol sy'n atgyfnerthu ac yn ategu at y gwaith dysgu a gwblheir yn yr ystafell ddosbarth.  Fodd bynnag, rydym yn fodlon trafod unrhyw anghenion unigol os nad yw'r rhaglen bresennol yn eu bodloni.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag unrhyw un o'r parciau gwledig.

yn ôl i'r brig