Mae Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Wrecsam yn cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Mae'r digwyddiadau wedi'u hanelu at oedolion a phlant a chynhelir digwyddiadau ychwanegol dros wyliau'r ysgol.
Am wybodaeth fanwl am y digwyddiadau, lawrlwythwch gopi o'n rhaglen ddigwyddiadau yma.
Mae'r daflen ar gael hefyd yn ein Canolfannau Ymwelwyr ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr, Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant a Pharc Gwledig Dyfroedd Alun.
Sylwer bod raid i blant fod yng nghwmni oedolyn ym mhob un o'r digwyddiadau.
Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Wrecsam
Mae Rhaglen Ddigwyddiadau ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Dyddiadur Digwyddiadau ar gyfer 2012 - Fersiwn PDF 1.6Mb ![]()
Taflen Wybodaeth - Fersiwn PDF 2.1Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Mae mwyafrif ein digwyddiadau yn addas ar gyfer pawb, fodd bynnag os oes gennych anghenion arbennig, neu anawsterau symudedd, byddai’n ddoeth gwirio bod y digwyddiad yn addas drwy ffonio rhif cyswllt y digwyddiad o flaen llaw.
Rydym yn darparu ystod o deithiau cerdded, a gobeithio y bydd hyn at ddant pawb. Sylwer y bydd ceidwad neu swyddog hawliau tramwy bob amser yn y man cyfarfod ar amser dechrau’r daith i roi gwybod i chi os y gohiriwyd y daith oherwydd tywydd gwael. Cofiwch wisgo esgidiau cyfforddus / cryfion a dod â dillad cynnes gwrth-ddwr a phecyn bwyd a diod os yw’r daith yn un hir.
Croesewir gwirfoddolwyr bob amser ac os oes gennych ambell awr i’w sbario, beth am i chi alw heibio unrhyw un o’r parciau gwledig.