Nofio Am Ddim (gwyliau ysgol)
Os ydych yn 16 oed neu’n iau gallwch fanteisio ar ein gwersi nofio AM DDIM yn eich canolfan hamdden a gweithgareddau leol; y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru ar gyfer eich Cerdyn Hamdden Pur… Cofiwch… dim cerdyn, dim nofio am ddim!
Yn awr gall plant a phobl ifanc sy’n 16 oed a iau nofio am ddim ar benwythnosau (gyda cherdyn hamdden PUR*) yn ystod y sesiynau canlynol! Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’ch Canolfan Hamdden a Gweithgareddau agosaf.
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun 01691 778666
Dydd Sul 12-1pm
A bydd sesiynau yn y gampfa AM DDIM i blant Dydd Sul 12-1pm**
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans 01978 269540
Dydd Sul 9-11am
A bydd sesiynau yn y gampfa AM DDIM i blant Dydd Sul 1-2pm**
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc 01978 821600
Bob dydd Sadwrn 9.30-11am
A bydd sesiynau yn y gampfa AM DDIM i blant 11am-1pm**
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Byd Dÿr Wrecsam 01978 297300
Dydd Sadwrn 3-5pm
* Gallwch gael cardiau hamdden PUR o unrhyw un o’r cyfleusterau sydd ar y rhestr uchod. Gofynnwch i’r staff ar y dderbynfa am ragor o wybodaeth.
** Cyfyngiadau oedran yn berthnasol.
Telerau ac Amodau
- Gallwch nofio am ddim ym mhob canolfan gan ddangos Cerdyn Hamdden Pur ac mae ar gael i drigolion Cymru yn unig
- Rhaid i blant dan 8 oed fod gydag oedolyn sydd wedi talu'r pris llawn
- Y cyntaf i'r felin gaiff falu
- 1 awr ar y mwyaf yn y pwll
Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru yw hon sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymdeithas Nofi o Amatur Cymru.
yn ôl i'r brig