Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwahodd neuaddau pentref yn y sir i wneud cais am grant a allai roi hyd at £2,500 iddynt.
Yn 2012/13, mae gan y gronfa £17,500 i'w ddosbarthu. Y swm isaf a ddyfernir yw £250 a'r swm mwyaf yw £2,500. Rhoddir yr arian i fudiadau gwirfoddol ac fe'i defnyddir i dalu am offer, gwaith trwsio adeiladau ac eitemau a fydd o fudd parhaus. Ni ellir dyfarnu arian i dalu costau staffio nac apeliadau/nawdd cyffredinol.
Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan bwyllgorau / ymddiriedolwyr rheoli o gyfansoddiad priodol sy'n gweinyddu neuaddau pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae neuaddau tref neu neuaddau pentref yn gymwys i wneud cais. Caiff neuaddau eglwys a mannau cyfarfod eraill eu hystyried, cyn belled a bo dim neuaddau pentref neu ganolfannau cymunedol eraill yn y gymuned honno. Dylid cwblhau ffurflen gais briodol ym mhob achos.
Dylid cyflwyno’r ceisiadau presennol erbyn 2 Goffennaf 2012.
Dim ond un dyfarniad a roddir i bob mudiad.
Am ffurflen gais, ffoniwch 01978 298858 yn ystod oriau swyddfa neu gallwch ei lawrlwytho o'n gwefan.
Gwybodaeth gyffredinol
Pryd caiff grantiau eu dyfarnu?
Mae’r Cyngor yn derbyn ceisiadau am grantiau bob blwyddyn. Dylid cyflwyno’r ceisiadau presennol erbyn 2 Gorffennaf 2012. Caiff ymgeiswyr eu hysbysu o ganlyniad y cais ym mis Gorffennaf a disgwylir iddynt fod wedi gwario’r grant erbyn 31 Ionawr 2013.
Pa wariant sy’n gymwys?
Cyfeiriwch at y meini prawf amgaeedig.
Prif bwyntiau:
- dyfernir y grantiau i fudiadau gwirfoddol, nid unigolion;
- gellir dyfarnu grantiau ar gyfer offer, trwsio adeiladau ac eitemau a fydd o fudd parhaus, megis mesurau arbed ynni;
- ni ellir dyfarnu grantiau i dalu costau staffio nac apeliadau / nawdd cyffredinol.
Blaenoriaethau 2012/13
Byddwn yn croesawu ceisiadau yn ymwneud â’r canlynol yn benodol:
- Lleihau Allyriadau Carbon a defnydd ynni eich adeilad
Enghreifftiau o’r rhain fyddai:
Ailosod rheolyddion gwresogi a goleuo;
Atal drafftiau ac inswleiddio pibellau;
Cadw dŵr.
- Gwneud eich adeilad yn fwy cynaliadwy drwy leihau gwaith cynnal a chadw neu gostau cynnal a / neu wella golwg ffisegol eich adeilad
Enghreifftiau o’r rhain fyddai:
Ffenestri a drysau newydd;
Cyflwyno mesurau diogelwch;
Paentio ac addurno.
- Gwneud eich adeilad yn fwy hygyrch i bobl ag anghenion gwahanol
Enghreifftiau o’r rhain fyddai:
Dolenni Sain Cludadwy/ Sefydlog;
Prif fynedfeydd gwastad;
Addasiadau i gyfleusterau presennol.
Pwy all wneud cais?
Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan bwyllgorau rheoli priodol/ymddiriedolwyr sy’n gweinyddu neuaddau pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae neuaddau tref neu bentref a weithredir gan gynghorau cymuned yn gymwys i wneud cais. Bydd neuaddau eglwys a mannau cyfarfod eraill yn cael eu hystyried ar yr amod nad oes unrhyw neuadd bentref neu ganolfan gymunedol arall yn y gymuned honno. Ym mhob achos, dylid cwblhau’r ffurflen gais briodol.
Faint?
Yn ystod 2012/13, mae gan y gronfa £17,500 i’w ddosbarthu. Y dyfarniad lleiaf yw £250 a’r mwyaf yw £2,500. Dim ond un dyfarniad a wneir i bob mudiad.
Meini Prawf ar gyfer Arian Grantiau Neuaddau Pentref
- Gelwir y cynllun yn Gronfa Neuaddau Pentref Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
- Rhoddir hysbyseb yn y wasg leol bob blwyddyn yn gwahodd ceisiadau o’r gronfa. Bydd gwybodaeth am y drefn ar gyfer gwneud cais hefyd ar gael ar wefan y Cyngor.
- Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Llun 2 Gorffennaf 2012 a bydd Pennaeth Lles a Datblygu Cymunedol yn penderfynu arnynt. Caiff ymgeiswyr wybod am y canlyniad ym mis Gorffennaf. Dylai'r derbynnydd fod wedi gwario'r grant erbyn 31 Ionawr 2013.
- Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno yn y ffordd briodol gan bwyllgorau/ymddiriedolaethau rheoli priodol sy’n gweinyddu neuaddau pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Gall Neuaddau Tref neu Bentref a weinyddir gan Gynghorau Cymuned wneud cais. Ystyrir Neuaddau Eglwys a mannau cyfarfod eraill ar yr amod nad oes unrhyw neuadd pentref neu ganolfan gymunedol eraill yn y gymuned honno. Ym mhob achos, dylid cwblhau’r ffurflen gais briodol.
- Nid yw Canolfannau Cymunedol neu adeiladau eraill a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam neu sy’n derbyn arian refeniw uniongyrchol ganddo yn gymwys i wneud cais i’r Gronfa hon.
- Cyfanswm y gronfa ar gyfer 2012/13 fydd £17,500. Y lleiafswm dyfarniad fydd £250 a £2,500 y flwyddyn fydd yr uchafswm. Ni ellir rhagdybio y bydd arian parhaus yn y blynyddoedd dilynol er yr ystyrir ceisiadau yn flynyddol.
- Gall ymgeiswyr wneud cais am arian ar gyfer yr elfennau canlynol:-
- Atgyweiriadau penodol i safleoedd
- Eitemau penodol o offer
- Mesurau arbed ynni
- ch. Costau prosiect penodol (ac eithrio staffio) megis rhoi hyfforddiant
- Bodloni gofynion deddfwriaethol (e.e. Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd)
- Costau cynnal y safle na all incwm neuadd y pentref eu talu
- Arian cyfatebol ar gyfer cronfeydd eraill (pan fo’r arian cyfatebol heb fod yn fwy na 45% o gyfanswm y gost).
- Ym mhob achos, ni thelir y dyfarniad cyn cyflwyno tystiolaeth i’r Cyngor (o fewn tri mis o roi gwybod am y dyfarniad) yr aethpwyd i gostau neu fod y gwariant wedi’i archebu.
- Ni ystyrir ceisiadau am:-
- Apeliadau cyffredinol
- Costau staffio
- Arian ar gyfer grwpiau defnyddwyr penodol
- ch. Cynigion i gyllidebau eraill y Cyngor a wrthodwyd neu na all y Cyngor eu hariannu oherwydd cyfyngiadau cyllideb.
- Rhoddir blaenoriaethau i geisiadau fel a ganlyn:-
- Caiff y symiau isaf eu hystyried yn gyntaf
- Ystyrir bod eitemau a fydd yn fuddiol yn barhaus yn fwy teilwng o gael arian (e.e. byddai eitem o offer yn cael blaenoriaeth dros daliadau am wasanaethau)
- Disgwylir i geisiadau ddangos canlyniadau penodol (e.e. y byddai defnydd cynyddol o neuadd y pentref yn deillio o’r grant) a gwneir penderfyniad yn unol â hynny
- c h. Ffafrir syniadau arloesol sydd yn amlwg yn rhai buddiol mewn meysydd eraill
- Caiff pob cais ei asesu yn erbyn rhestr wirio i sicrhau cydymffurfiaeth â’r meini prawf.
- Mae cyngor ar gwblhau’r ffurflen ar gael gan yr Adran Lles a Datblygu Cymunedol ar 01978 298858.
Ffurflen Gais
Ffurflen Gais
Mae'r ffurflen gais ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Ffurflen Gais - fformat Word 99Kb 
Ffurflen Gais - fformat PDF 60Kb 
Ffurflen Gais - fformat Testun Plaen 467Kb 
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
yn ôl i'r brig