Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans

Os ydych chi’n chwilio am le gwych i nofio, neuadd chwaraeon â llawer o gyfarpar o’r radd flaenaf a rhaglen o weithgareddau a chyfleoedd ar gyfer pawb, yna Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans yw’r lle i Chi!

Wedi’i lleoli yng nghanol cymuned Gwersyllt, ger Ysgol Bryn Alun, mae’r ganolfan hon yn hawdd i’w chyrraedd yn y car neu ar gludiant cyhoeddus. (Wrecsam 5 munud, Caer 15 munud).



 

 

Cyfleusterau

Ystafelloedd Cadw'n Heini Pur

Yn ein hystafelloedd cadw’n heini newydd sbon mae ‘r offer cardiofasgwlaidd a gwrthiant o’r ansawdd uchaf. Mae’r ystafelloedd cadw’n heini hollol awyredig yn croesawu pawb, pa un ai i geisio colli pwysau, iachuso’r corff neu wella o rywbeth mwy difrifol.

Amserau agor:

  • Dydd Llun - Dydd Gwener 9.00am - 9.30pm
  • Dydd Sadwrn a Dydd Sul 9.00am - 4.30pm

Cyfleusterau Dŵr

Mae’r cyfleuster dŵr trawiadol yn cynnwys pwll 25 metr, 4 lôn gyda lle i 100 o wylwyr.

Byddem yn hoffi meddwl bod ein rhaglen weithgareddau'r un mor drawiadol â’n cyfleuster. Rydym yn cynnig dewis llawn o wersi nofio ar gyfer babanod trwodd i oedolion sy’n methu nofio i safonau cenedlaethol; dosbarthiadau ymarfer dyfrol i gerddoriaeth; sesiynau 50 a hŷn; sesiynau teulu a Nosau Sblash. Mae cyfleusterau ar gael ar gyfer pobl anabl. Dylai rhaglen y pwll gynnwys rhywbeth i bawb ond, os nad yw, cofiwch ddweud wrthym.

Cyfleusterau Chwaraeon

Mae’r Neuadd Chwaraeon yn amlbwrpas ar gyfer popeth o grefft ymladd, hyfforddiant cylchol, dosbarthiadau cadw’n heini, tennis bwrdd, pêl-rwyd, pêl-droed a badminton.

Y MUGA (man chwarae amlddefnydd) yw ardal amlbwrpas awyr agored dan lifoleuadau ar gyfer pêl-droed a phêl-fasged.

Mae tri o gyrtiau tennis awyr agored wedi’u cynnal yn dda’n amgylchedd perffaith i chwaraewyr tennis.

Manylion Cyswllt

Am fanylion pellach ynghylch unrhyw un o’r uchod, argaeledd, neilltuo a phrisiau, mae croeso i chi gysylltu y tîm:

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
Heol Cefn
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4HQ.

Ffôn: 01978 269540
ebost: gwynevans.sportscentre@wrexham.gov.uk

Dewch yn eich blaen… rydym yn barod i’ch cynorthwyo!

yn ôl i'r brig