Mae'r pwll nofio ar gael ar gyfer archebion parti ar:
- Dydd Gwener: 8.00pm – 9.00pm
- Dydd Sadwrn: 2.00pm – 3.00pm a 3.30pm – 4.30pm
- Dydd Sul: 3.00pm – 4.00pm
Caiff hyn ei ddosbarthu fel archebu preifat ac nid yw’r cyhoedd yn cael defnyddio’r pwll yn ystod y sesiwn hwn.
Mae’r Neuadd Chwaraeon ar gael ar gyfer bwyd ar ôl y parti, caiff 1 awr ei neilltuo a’r parti i ddarparu eu bwyd a diod eu hunain.
Ar gyfer plant dan wyth oed, rydym yn argymell yr offer parti bach pwmpiadwy ac i blant dros wyth y Rhwystr Dŵr. Mae hyn oherwydd y gall fod yn anodd i blant iau gyrraedd y Rhwystr Dŵr ond chi sydd i benderfynu wrth archebu’r parti!
Rhwystr Dŵr
- Ugain metr o offer pwmpiadwy.
- Amrywiol rwystrau a sleidiau ar ei hyd.
- Dechrau yn y pen bas a gorffen yn y pen dwfn.
Cost
- Pwll yn Unig (1 awr) = £50.30 + Ystafell Barti = £60.60.
- Rhwystr Dŵr (1 awr) = £100.00 + Ystafell Barti = £110.00.

Blaendal
- Bydd angen talu blaendal o £20.00 nad oes modd ei ad-daluwrth archebu parti.
Achubwyr
- Bydd o leiaf ddau achubwr yn bresennol.
Darpariaethau
- Bydd cyflwyniad diogelwch yn cael ei roi cyn mynd i’r dŵr a bydd cymhorthion nofio ar gyfer y rhai sydd eu hangen.
Amodau Archebu
- Nifer mwyaf yr ymdrochwyr mewn parti yw 30.
- Cymhareb ar gyfer plant dan 8 = 1 oedolyn i 2 blentyn dan 8
- Cymhareb ar gyfer plant dan 5 = 1 oedolyn i 1 plentyn dan 5
Os ydych yn ansicr neu eisiau gwybodaeth ychwanegol, cofiwch gysylltu â’r ganolfan.
yn ôl i'r brig