Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Teithiau Cerdded Iach ym Mharciau Gwledig Wrecsam a'r cyffiniau

 

Mae'r llyfryn am deithiau cerdded iach ym mharciau gwledig Wrecsam a'r cyffiniau'n cynnwys 7 o deithiau cerdded sy'n dechrau o'r Parciau Gwledig a reolir gan Wasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Wrecsam.

Mae'r teithiau'n weddol rwydd – nid yw'r un ohonynt yn fwy na 2-3 milltir o hyd, ac nid ydynt yn para mwy na 2 awr.

Croesawir cwn ar y teithiau hyn, cyn belled â'u bod yn cael eu cadw dan reolaeth.  Rydym wedi ceisio cynnwys unrhyw fannau o ddiddordeb lleol ym mhob un o'r teithiau.

Os ydych yn dioddef anawsterau symud, ffoniwch 01978 763140 i gael cyngor am addasrwydd y llwybrau.

Mae pob un o'r 7 o barciau gwledig yn Wrecsam yn unigryw gyda rhywbeth at ddant pawb, o olegfeydd tawel o goetiroedd ac afonydd i fannau chwarae ac anifeiliaid fferm. Mae gennym raglen o weithgareddau cyffrous ym mhob un o'r parciau, a gynhelir trwy gydol y flwyddyn.  Cewch fwy o fanylion yn ein taflen ddigwyddiadau.  Rydym hefyd yn darparu rhaglen addysg amgylcheddol eang i ysgolion.

Taith Gerdded Dywysedig yn Ystod Yr Wythnos

Ymunwch â Cheidwad Tŷ Mawr ar daith gerdded drwy’r gweirgloddiau ar hyd yr Afon Dyfrdwy.  Mae’r daith yn mynd ar hyd Basn Trefor lle gellir gweld y ddyfrbont, cyn dychwelyd at Barc Gwledig Tŷ Mawr.

Mae’r daith yn cynnwys rhai llethrau serth, stepiau, camfeydd, a thir anwastad.

Cyfarfod yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Tŷ Mawr Dydd Mercher 18fed Mehefin 10.30am.

Bydd y daith yn cymryd oddeutu 1½ awr ac mae’n 3 milltir o hyd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Pharc Gwledig Tŷ Mawr ar 01978 822 780.

Teithiau Cerdded Iach ym Mharciau Gwledig Wrecsam a’r cyffiniau

Mae'r taflen cerdded iachus ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Teithiau Cerdded Iach ym Mharciau Gwledig Wrecsam a'r Cyffiniau - Fersiwn PDF 1.1Mb 

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ffoniwch 01978 762122 neu e-bostiwch
countryparks@wrexham.gov.uk

 
English
 

Gwybodaeth i Dwristiaid

Parciau Gwledig
Strategaeth Cefn Gwlad
Newyddion
Gwasanaeth Cefn Gwlad
Parc Gwledig Melin y Nant
Parc Gwledig Mwynglawdd Minera
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Parc Gwledig Ty Mawr
Parc Gwledig Stryt Las
Llwybr Dyffryn Clywedog
Parciau Gwledig & Digwyddiadau
Teithiau Cerdded Iachus
Gwasanaethau Parciau
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint