Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Meinciau coffa ym Mharciau Gwledig Wrecsam

 

Mainc ‘Hirgrwn’ ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun

Mae Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawl Tramwy’r Cyhoedd yn Wrecsam yn lansio cynllun meinciau coffa. Mae parciau gwledig yn lleoedd hardd ac ymlaciol. Maent yn lleoliadau perffaith ar gyfer cofio rhywun agos. Mae’r cynllun yn caniatáu i chi noddi mainc newydd yn un o barciau gwledig Wrecsam, wedi’i chysegru i rywun annwyl, neu i ddathlu achlysur arbennig.

Rydym yn cynnig dewis o dri math o fainc dderw gyda phlac coffa pres a gaiff ei gosod gan geidwaid y parc. Mae meinciau derw yn naturiol wrthsafol rhag pydredd, yn aros yn goffâd parhaol, wrth gynnig lle cyfforddus i ymwelwyr orffwyso.

Y tri steil ar gael yw:

Ymerodrol

Mainc dderw draddodiadol gyda chefn a sedd ddelltog. Cost £400.

Hirgrwn

Mainc dderw syml gyda’r ddau ben yn grwm a dim cefn. Cost £350.

Gwladaidd

Mainc dderw syml iawn, dim cefn a’r coesau heb eu gorffen. Cost £300.

Am fwy o fanylion neu i drafod lleoliadau posibl ar gyfer mainc ffoniwch 01978 763140.

 
English
 

Gwybodaeth i Dwristiaid

Parciau Gwledig
Strategaeth Cefn Gwlad
Newyddion
Gwasanaeth Cefn Gwlad
Parc Gwledig Melin y Nant
Parc Gwledig Mwynglawdd Minera
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Parc Gwledig Ty Mawr
Parc Gwledig Stryt Las
Llwybr Dyffryn Clywedog
Parciau Gwledig & Digwyddiadau
Teithiau Cerdded Iachus
Gwasanaethau Parciau
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint