Parc Gwledig Dyffryn Moss

Mae Dyffryn Moss yn barcdir hyfryd a leolir rhwng Gwersyllt a Brynteg, tair milltir ir gogledd o Wrecsam.Mae gan y dyffryn sip V goetiroedd bob ochr iddo, dau lyn bychan a glaswelltir agored.

Mae’r dyffryn yn gynefin cyfoethog i fywyd gwyllt, ac mae’n nodedig am ei adar yn arbennig.  Mae gan ddyffryn Moss orffennol, diwydiannol, ac ar un adeg, roedd yn ardal bwysig ar gyfer cloddio glo.  Adenillwyd y tomenni pridd gwastraff ym 1973, ond ymysg y coetiroedd a’r dolydd tawel, gwelir tystiolaeth o’r hen reilffyrdd o hyd.

Mae gan y parc nifer o lwybrau sy’n rhedeg ar hyd y llynnoedd a thrwy’r coetir derw a ffawydd.  Mae’r llwybrau’n aml yn dilyn yr hen dramffyrdd a’r rheilffyrdd a ddefnyddiwyd ar un adeg i gludo’r glo a’r tywodfaen o’r dyffryn. Er bod y pyllau glo wedi hen fynd, mae’r chwareli tywodfaen bychain yno o hyd ac yn cynnig cynefinoedd gwych i fywyd gwyllt gan eu bod wedi’u cuddio ymysg y coed.

Mae sawl llwybr hefyd yn addas ar gyfer beiciau ac mae llwybr beicio newydd ar ben y parc sy’n ymestyn am filltir gan ddod allan ger mynedfa’r parc ar Ffordd San Steffan.

Mae Clwb Pysgota Dyffryn Moss yn defnyddio’r llyn ger y prif faes parcio.  Cysylltwch â Deggy’s Fishing Tackle, 2 Ffordd Rhiwabon, Wrecsam i gael manylion am aelodaeth ac i brynu tocynnau diwrnod.

Sut i gyrraedd y parc

Gadewch yr A483 ar gyffordd Yr Wyddgrug.  Ar y gylchfan, trowch i Ffordd Brynhyfryd a dilynwch yr arwyddion melyn i gwrs golff Dyffryn Moss.  Yna cymerwch y trydydd troad ar y chwith i Ffordd yr Aber.  Parciwch rhwng y llynnoedd.

Oriau agor

Mae’r parc ar agor drwy’r flwyddyn.

Cyfleusterau

  • Maes parcio
  • Grwpiau ysgol drwy drefniant
  • Sgyrsiau/teithiau cerdded tywysedig
  • Gwirfoddolwyr cadwraeth

Cyfeiriad y lleoliad

Parc Gwledig Dyffryn Moss
Ffordd yr Aber
Ger Ffordd Brynhyfryd a Ffordd Gatewen
Moss
Wrecsam

Cysylltwch â

Ceidwad Cymunedol Dyffryn Moss
Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint
3/4 Ffordd Plas Power,
Tanyfron,
Wrecsam
LL11 6PW

Ffôn: 01978 757524 Est. 240

yn ôl i'r brig