Eglwys Y Drindod

Sefydlwyd yr eglwys yn 1841 ar ôl ffurfio Plwyf Yr Orsedd o Blwyf Gresffordd, ond fe'i disodlwyd yn 1892 gan yr adeilad presennol. Ceir dwy farn am darddiad Rossett, yr enw Saesneg ar y pentref. Mae rhai'n credu iddo ddeillio o "Yr Orsedd", sy'n golygu bryncyn, ac eraill o'r farn ei fod yn deillio o "Y Rhosydd", sy'n golygu cors.

Eglwys Y Drindod, Yr Orsedd

Cynlluniwyd Eglwys Yr Orsedd gan y penseiri o Gaer, Douglas a Fordham, a fu'n gyfrifol hefyd am gynllunio eglwysi cyfagos Dodleston, Pulford ac Eccleston. Mae ganddi ganiad o wyth o diwbglychau.

Llun o Eglwys y DrindoMae'r gwydr lliw yn cynnwys sawl enghraifft dda o'r cyfnod. Priodolir dwy ffenestr i'r artist Kemp ac un i Burne Jones.

Mae'r reredos yn cynnwys pum panel derw sy'n darlunio Crist a chwe angel, ac mae wedi'i wneud o glustiau môr ac alabastr lliw. Mae'r pulpud derw cerfiedig chweochrog wedi goroesi o'r eglwys wreiddiol, ac felly hefyd y fedyddfaen ar dir yr eglwys.

Anogir ymwelwyr i archwilio'r Fynwent Fyw, sy'n cynnwys sawl adran gadwraeth. Ar un adeg, roedd tw'r elor yn gartref i hen gert yr elor a gludai eirch drwy'r pentref ac fe'i harddangosir nawr yng Nghanolfan Dreftadaeth Y Bers, ger Wrecsam.

Cyfleusterau

  • Maes parcio mawr ger Ffordd yr Orsaf
  • Toiledau ar gael yn y tafarndai lleol

Lleoedd i Ymweld  Nhw

  • Maes chwarae i blant (ar y lawnt lle'r oedd y cyffion a'r crocbren yn arfer cael eu cadw)

Mannau o Ddiddordeb Lleol

  • Melin Yr Orsedd (Tua 1661) Peintiwyd gan JMW Turner (nid yw ar agor i'r cyhoedd)

Cyswllt

Ffôn: 01978 292015

Amseroedd Agor

Dydd Sadwrn

1.00pm - 5.00pm

Dydd Sul

1.00pm - 5.00pm neu drwy apwyntiad

Gwybodaeth am Fynediad

Eglwys Y Drindod

Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:

Eglwys Y Drindod - Fersiwn PDF 159Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig