Gellir dadlau mai dyma'r ysgubor gyntaf i'w haddasu'n adeilad, gan mai Ysgubor Ddegwm oedd yr eglwys unigryw a swynol hon yn wreiddiol. Cafodd yr eglwys, sydd wedi'i gwneud o friciau Fenn Bank, a oedd unwaith yn ddiwydiant lleol llwyddiannus, ei chysegru'n gapel yn 1836.

Roedd yr ysgubor wreiddiol yn wynebu'r de, gyda chroesfâu newydd yn ffurfio siâp croes nodweddiadol. Ychwanegwyd y gangell a'r clochdy, gyda'i gloc Joyce, yn yr 1860au, ac mae'r festri newydd fwy yn dyddio o 1911.
Ceir yma gyfoeth o swyn a diddordeb. Daeth yr hen seddi bocs o Eglwys Gresffordd yn ystod y 19eg ganrif, mae'r gangell yn cynnwys teils arbennig Rhiwabon o'r 1930au, ac mae ffenestri ochr art nouveau yn cyfoethogi'r gangell. Yn y galeri, sy'n arysgrifedig â gorchymyn llyn o Lefiticus, arferai cerddorfa fechan chwarae (fel ag yn un o nofelau Hardy). Yna rhoddwyd organ yno a bellach mae honno wedi'i disodli gan organ y gangell.
Mae ei lleoliad heddychlon, coediog ar ddiwedd lôn fechan yn gwneud yr eglwys anarferol hon yn lle tawel a sanctaidd i ymweld ag ef.
Mae gerddi'r Eglwys yn encilfan natur hyfryd er mwyn i gerddwyr ymlacio
Gwarchodfa Natur Corsydd Fenn a Whixall
Ffôn: 01978 292015
Bob dydd, o wawr hyd fachlud.
Eglwys Y Drindod Sanctaidd
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
Lawrlwytho'r taflen Eglwys Y Drindod Sanctaidd - fformat PDF 147Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.