Yn Agor Y Drysau I Eglwysi Hanesyddol Wrecsam.
Profwch daith hudol o ddarganfyddiad o ran hanes, pensaernïaeth a ffydd wedi'u buddsoddi mewn grwp nodedig o eglwysi agored sydd wedi bod yn estyn croeso cynnes i ymwesyr a phererinion ers canrifoedd maith.
Dysgwch am Owain Glyndwr, y bardd R S Thomas, cymwynaswr y brifysgol Elhiu Yale a nifer o bobl gyfaredol eraill, drwy wybodaeth a arddangosir ac sydd hefyd mewn taflenni. Mae cenedlaethau o Gymry enwog wedi'u dal yn y cofadeiladau a'r arysgrifau, gyda chreiriau o amseroedd Rhufeinig; delwau o arwyr Cymreig; teyrngedau i gymwynaswyr cefnog, marchogion ac anturiaethwyr dewr ac ecsentrig.
Darganfyddwch ddechreuadau Normanaidd, bwâu Gothig, pileri perpendicwlar ac addurniadau celf a chrefft. Rhyfeddwch at eglwysi a adeiladwyd mewn arddull fawreddog a chael eich swyno gan ysgubor ddegwm a addaswyd, seddau caeëdig a chlochdai mawr.
P'un ai ydynt wedi'i hamgylchynu gan goed; gerllaw nant neu afon ddolennog; ynghanol caeau gwledig neu bentrefi bychain, neu hyd yn oed ynghanol tref, mae pob un o'n heglwysi yn cynnig llonyddwch ac ardaloedd picnic awyr agored llawn croeso.
Mae hanes eglwys yn ymgorffori bywyd y gymuned leol. Gadewch i'ch dychymyg fynd ar ras wrth i chi ddarllen am sylfeini hynafol, helyntion y Rhyfel Cartref, sefydlu eglwysi Fictoraidd a'r ddau Ryfel Byd, a byddwch yn dyst mud i fywydau a phrofiadau cenedlaethau'r gorffennol.
Mae ein heglwysi yn parhau i fod yn ganolfannau i gymunedau lleol, yn rhan ganolog o fywyd trefi a phentrefi. Yma y mae corau mawr a grwpiau cerdd bychain yn parhau i berfformio mewn lleoliadau rhyfeddol, a chymunedau'n addoli bob dydd Sul. Eto i gyd, maent ar agor (rhai drwy apwyntiad) i bawb sy'n dymuno ymweld â hwy i ddychmygu a rhyfeddu.
Defnyddiwch yr allwedd a'r map i gynllunio eich ymweliadau o amgylch y Rhwydwaith Eglwysi Agored.
Am wybodaeth bellach am y Rhwydwaith Eglwysi Agored, ffoniwch 01978 292015.
![]() |
![]() |
![]() |