Mae gan "eglwys y llyn disglair" bopeth i'w gynnig - graddfa, rhamant, hanes, rhyfel, nodweddion gwych a golygfeydd syfrdanol ar draws y llyn cyfagos.

Mae'r eglwys 12fed ganrif wreiddiol wedi'i difrodi'n ddrwg gan dân ddwywaith, a'i hailadeiladu bob tro â thywodfaen lleol ar yr un sylfeini, yn yr arddull Berpendicwlar.
Tua 1380, prodwyd Owain Glyndwr â Margaret Hanmer yn y fan hon, sef merch hudolus Syr David Hanmer, Ynad Mainc y Brenin.
Yn 1643, yn ystod y Rhyfel Cartref, ymosododd Pengryniaid Nantwich ar y pentref a stablu eu ceffylau yng Nghapel Fenn lle mae'r organ heddiw. Yn ddiweddarach, torrwyd mintai fawr o geffylau a dragwniaid Seneddol yn ddarnau gerllaw gan Grenhinwyr Cymreig.

Mae Sant Chad yn ymddangos yn "Bad Blood", hunangofiant Lorna Sage, sy'n werthwr gorau ac wedi ennill gwobrau. Cofnododd Lorna Sage ei phlentyndod yn Ficerdy Hanmer yn ystod y blynyddoedd wedi'r rhyfel.
Mae nodweddion hynod eraill yn cynnwys ffenestri lliw gan Kemp, cerfiadau pren cain, a Sgwâr Eglwys hyfryd â phedwar adeilad rhestredig.
Llyn Hanmer
Teitiau cerdded cylchol Llwybr Maelor (mapiau ar gael o Swyddfa Bost Hanmer)
Llwybr 'Lorna Sage'
Siopau'r pentref
Swyddfa Bost
Ffôn: 01978 292015
Ar agor bob dydd, o wawr hyd fachlud
Eglwys Sant Chad
Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:
Lawrlwytho'r taflen Eglwys Sant Chad - fformat PDF 157Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.