Eglwys Blwyf Sant Deiniol

Mae'r Eglwys hon yn adeilad rhestredig Gradd I ac nid oes dwywaith mai dyma un o'r enghreifftiau gorau o Bensaernïaeth Sioraidd yng Nghymru.

Llun o Eglwys Blwyf Sant Deiniol

Fe'i hadeiladwyd rhwng 1736 ac 1739 a'i chynllunio gan Richard Trubshaw, y pensaer a fu'n gyfrifol am ailfodelu Neuadd Emral (a ddymchwelwyd yn 1936), y mae gan yr Eglwys gysylltiadau hanesyddol â hi.

Llun o Eglwys Blwyf Sant DeiniolMae'r tu allan yn wirioneddol nodweddiadol, gyda brics coch â thriniadau meini, twr sgwâr gwych a therfyniadau wrn a balwstrad, a chloc gan Joyce o'r Eglwys Wen. Mae'r fynwent wedi'i hamgylchynu'n llwyr gan wal frics â cherrig copa, ac mae pisgwydd wedi'u plannu yno.

Un trysor arbennig yw set gyfan o seddi bocs, yn bennaf o'r 18fed ganrif, ag arfbais teulu Puleston arnynt. Mae gan ddwy ohonynt leoedd tân haearn bwrw a phrif seddi, ac mae'r cyfan wei'i drefnu mewn trefn ddisgynnol i gyd-fynd â statws cymdeithasol.

Cyfleusterau

  • Parcio ar y stryd
  • Toiledau ar gael yn y tafardai lleol, Worthenbury Arms a Queens Head, Sarn
  • Mynediad i gadeiriau olwyn
  • Cofroddion ar gael

Lleoedd i Ymweld  Nhw

  • Llwybrau troed lleol.

  • Gellir gweld saftle Neuadd Emral a Iard y Stablau drwy apwyntiad. Ffô n: 01948 770576.

Cyswllt

Ffôn: 01978 292015

Amseroedd Agor

Bob dydd - 8.00am - 5.00pm

Gwybodaeth am Fynediad

Eglwys Blwyf Sant Deiniol

Lawrlwytho'r taflen ar y ffurfiau canlynol:

Lawrlwytho'r taflen Eglwys Blwyf Sant Deiniol - fformat PDF 134Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig